Skip to content

Mae Cyngor Sir Powys wedi cefnogi cynlluniau i greu llety ‘Gofal Ychwanegol’ yn Y Trallwng gan fuddsoddi dros £10m yn y dref.

Rhoddodd cabinet y cyngor sir gefnogaeth heddiw (9 Gorffennaf) i’r cyngor weithio gyda Chymdeithas Tai ClwydAlyn, sy’n bartner, i ddatblygu cynlluniau ar gyfer llety Gofal Ychwanegol yn swyddfeydd Neuadd Maldwyn – y trefnwyd i’w cau.

Cefnogwyd y cynlluniau mewn egwyddor, gan gynnwys trosglwyddo adeilad y cyngor i’r Gymdeithas Tai yn ddigost, yn amodol ar adroddiad pellach yn cadarnhau ymarferoldeb y cynllun.

Mae cynlluniau Gofal Ychwanegol yn darparu dewis byw’n annibynnol lle gall pobl hyn fyw yn eu cartref hunangynhwysol eu hunain a defnyddio amrediad eang o gyfleusterau comunol a chael mynediad i becynnau cymorth gofal personol.

“Mae llety Gofal Ychwanegol yn cael ei gydnabod fel ffordd ragorol o gefnogi pobl i fyw yn eu cymunedau eu hunain, gan ddarparu’r gofal y maent eu hangen heb iddynt orfod symudi mewn i leoliad gofal preswyl.

“Mae arolygiad o lety pobl hŷn ym Mhowys wedi dynodi’r Trallwng fel ardal blaenoriaeth ar gyfer datblygu Gofal Ychwanegol. Cafodd dadansoddiad o’r bylchau fod galw sylweddol yn y dref am wasanaethu o’r fath ac nad oedd unrhyw gyfleusterau ar gael i ddiwallu’r angen, neu ychydig gyfleusterau yn unig o’r math yma.

“Mae Neuadd Maldwyn yn safle gwastad yng nghanol y dref, gyda chyfleoedd rhagorol o ran cysylltiadau teithio, a photensial enfawr i gael ei drosi’n llety gofal ychwanegol i wasanaethu’r dref a’r ardaloedd cyffiniol.

“Trwy weithio gyda ClwydAlyn credwn fod gennym gyfle euraid i greu rhywbeth arbennig iawn a mynd i’r afael â’r galw hysbys am wasanaethau yn y gymuned.” 
Ali Bulman
Cyfarwyddwr Corfforaethol Plant ac Oedolion

Dywedodd Craig Sparrow, Cyfarwyddwr Datblygu Gweithredol ClwydAlyn: “Mae ClwydAlyn wrth eu bodd cael bod yn rhan o hyn a gweithio mewn partneriaeth â Phowys ar y cynllun arloesol yma a fydd o fudd i bobl o bob rhan o’r sir am genedlaethau”

“Bydd ymgynghoriad llawn yn cael ei gynnal, ac edrychwn ymlaen at gyfarfod pawb sy’n rhan o’r broses wrth i’r cynllun cyffrous hwn fynd yn ei flaen. Y cynllun yw creu tua 60 o fflatiau hunangynhwysol ar y safle, a fydd yn cael eu dylunio fel eu bod yn ymgorffori’r adeiladau rhestredig ac yn gydnaws â hwy, yn amodol ar ganiatâd cynllunio.”