Skip to content

Yn ystod un o’i ymweliadau olaf â’r ardal fel Prif Weinidog Cymru, roedd yn bleser gan ClwydAlyn groesawu Mark Drakeford i’r datblygiad tai fforddiadwy sydd newydd ei gwblhau ym Mhentraeth, Ynys Môn.

Roedd Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd, wedi ymuno hefyd a chafodd y gweinidogion gyfle i ymweld â’r tai newydd y mae galw mawr amdanynt a sgwrsio â’r bobl sy’n symud i mewn i’r datblygiad.

Mae ClwydAlyn wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth Cymru i ddod â thai fforddiadwy ac ynni-effeithlon i Ynys Môn.

Mae’r prosiect wedi arwain at adeiladu 23 o gartrefi newydd, sef cymysgedd o fflatiau 1 ystafell wely a thai 2, 3, a 4 ystafell wely.

Mae 13 o’r tai yn cael eu rheoli’n uniongyrchol gan ClwydAlyn, a Chyngor Sir Ynys Môn sy’n rheoli’r gweddill.

Cwmni Williams Homes oedd yr adeiladwyr, ac mae pob cartref yn cynnwys nifer o nodweddion arloesol sy’n ceisio lleihau’r effaith ar yr amgylchedd, gwella effeithlonrwydd ynni a lleihau biliau. Mae’r nodweddion hyn yn cynnwys pympiau gwres ffynhonnell aer, paneli solar a batris storio trydan, yn ogystal â chyfleusterau ar gyfer gwefru ceir trydan.

Mae ClwydAlyn wedi rhoi blaenoriaeth hefyd ar brynu defnyddiau gan weithgynhyrchwyr a chyflenwyr lleol, gan leihau ôl-troed carbon y broses adeiladu a chefnogi’r economi leol.

Mae’r gwaith o gwblhau’r tai yn gam arwyddocaol wrth fynd i’r afael â’r angen am rhagor o dai fforddiadwy ar Ynys Môn ac mae’n cyfrannu at ymrwymiad y Cyngor Sir i adeiladu dros fil o dai newydd ar yr ynys.

“Roeddwn yn falch iawn o ymweld â’r datblygiad tai newydd ym Mhentraeth, sy’n fuddsoddiad sylweddol mewn tai fforddiadwy ar gyfer y gymuned leol.

“Rydyn ni’n gwybod fod y cynnydd mewn biliau gwres a’r argyfwng costau byw yn effeithio ar ragor o bobl ac mae rhai unigolion yn wynebu tlodi tanwydd. Mae datblygiadau ynni-effeithlon fel y rhain yn bwysig iawn i leihau costau’r preswylwyr a lleihau’r effaith ar yr amgylchedd ar yr un pryd.”

Mark Drakeford
Prif Weinidog

Ychwanegodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd:

“Mae prosiectau fel hyn, sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd ac effeithlonrwydd ynni, yn hollbwysig er mwyn mynd i’r afael â heriau ym maes tai a sicrhau y gall pawb yng Nghymru fyw mewn tai fforddiadwy, carbon isel, saff a diogel, nid yn unig heddiw ond am flynyddoedd i ddod.”

Mae’r datblygiad hwn gerllaw Stad Ddiwydiannol Pentraeth yn rhan o genhadaeth ClwydAlyn i fynd i’r afael â thlodi tanwydd a hybu cynaliadwyedd amgylcheddol.

Ar hyn o bryd mae ClwydAlyn yn adeiladu 558 o dai effeithlon iawn ac yn cymryd camau gweithredol i wella cynaliadwyedd yn y sector cyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth a fydd yn sicrhau bod tai yn effeithlon erbyn 2030.

 Dywedodd Craig Sparrow, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu ClwydAlyn:

“Mae’r gwaith o drawsnewid y safle yn 23 o dai fforddiadwy newydd o ansawdd, sy’n isel o ran carbon, yn adlewyrchu ein cenhadaeth ehangach i gyfoethogi cymunedau ar draws Gogledd Cymru tra’n darparu tai sy’n addas ar gyfer y dyfodol

“Roeddem yn falch iawn o groesawu’r Prif Weinidog a Gweinidog Gogledd Cymru i’r cynllun er mwyn dangos yr effaith gall datblygiadau tai fforddiadwy o’r fath ei chael ar bobl leol a’r gymuned yn ehangach

 “Mae cwblhau’r cynllun yn brawf o lwyddiant ein partneriaeth gyda Chyngor Ynys Môn a Williams Homes, sydd wedi helpu i wireddu’r cynllun.”