Skip to content

Datgelwyd enillwyr Gwobrau Cymydog Da ClwydAlyn, sy’n dathlu’r rhai sy’n mynd y filltir ychwanegol a gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau eu cymdogion neu’r gymuned leol, heddiw, dydd Gwener 21 Gorffennaf.

Mae’r gwobrau’n dathlu pobl sy’n rhoi eu hamser i helpu i wella ein cymunedau ar draws Gogledd Cymru trwy eu gwneud yn gynhwysol a chroesawus.

Roedd gwobr 1af, 2il a 3ydd ar gael ym mhob awdurdod lleol y mae gan ClwydAlyn gartrefi ynddynt: Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Wrecsam a Phowys, gan roi cyfle i bawb enwebu’r rhai sydd wedi mynd tu hwnt i’r gofyn yn eu cymunedau.

Enillwyr Gwobrau Cymydog Da 2023 yw:

Ynys Môn

  • 1arAylwin Shaw
  • 2ilDyfrig Morris Williams
  • 3yddKirsty Edwards

Conwy

  • 1afJohn Kelly
  • 2ilGraham Fantom
  • Cydradd 3ydd– Catherine Watkins / Gladys Hughes

Sir y Fflint

  • 1afSusan Peers
  • 2ilHoll Breswylwyr Nant Mawr Court
  • 3yddAva Davies

Gwynedd

  • 1afMr Wladyslaw Solek
  • 2ilPauline Merchant

Wrecsam

  • 1arEluned Plack
  • 2ilAnthony Williams a Sara Douglas
  • 3yddDavid Perkins

 

Cyflwynwyd talebau i’r enillwyr gwerth hyd at £100 (2il £75 a 3ydd £50) i ddiolch iddynt am fod yn gymdogion mor dda a mynd y filltir ychwanegol.

 

“Dyma’r tro cyntaf i ni gynnal y Gwobrau Cymydog Da, ac mae’r ymateb a gafwyd wedi bod yn wych! Mae’r wobr hon yn ffordd ffantastig o daflu goleuni ar yr holl gymunedau gwych sydd gennym, ac mae’n ein hatgoffa ni i gyd bod cymunedau yn cynnwys pobl sy’n gofalu am ei gilydd.

“Mae ein strategaeth yn ymwneud â’n Cwsmeriaid, ein Cydweithwyr a’n Cymunedau yn llwyr. Mae ein Cwsmeriaid sydd wedi cael eu henwebu ar gyfer y gwobrau pwysig yma i gyd yn cyfrannu llawer iawn at ein cymunedau ac at Ogledd Cymru. Dyna yw’r wobr hon. Mwyaf yn y byd y byddwn yn gofalu am ein gilydd gorau yn y byd fydd ein cymunedau.

Da iawn i bawb a enwebwyd a phawb sy’n gwneud pethau gwych yn eu cymunedau heb i neb sylwi. Rydym oll yn llunio cymunedau os byddwn yn dal ati i fod yn gymdogion da.”
Dywedodd Annie Jackson
Swyddog Ymgysylltiad Cymunedol yn ClwydAlyn