Skip to content

Mae Gorwel Newydd yn gynllun Byw’n Annibynnol i bobl  hŷn a adeiladwyd i’r diben, sy’n cynnig cyfuniad unigryw i chi o fywyd annibynnol, ond gyda gofal cartref 24 awr y dydd ar y safle a chefnogaeth yn ôl yr angen, gan roi tawelwch meddwl i chi yn awr ac at y dyfodol.

Rydym wedi defnyddio ein profiad eang i ddatblygu fflatiau o safon uchel, sydd wedi eu hadeiladu i’r diben i roi amgylchedd delfrydol ar gyfer eich holl anghenion, gan gynnig gofal cartref, cefnogaeth a chymorth i hyrwyddo annibyniaeth. Mae ein sylw i ddylunio da wedi ymestyn at bob agwedd o’r cynllun a’r fflatiau – maent wedi eu hinswleiddio fel eu bod yn gyfforddus ac yn effeithlon o ran ynni, mae ynddynt dechnoleg i helpu i gefnogi bywyd annibynnol ac maent yn ddiogel a chyfleus, ac eto yn cynnig amgylchedd cartrefol a modern, mewn gerddi deniadol sy’n cael eu cynnal yn dda.

Mae gwneud ffrindiau newydd yn hawdd, datblygwyd yr ardaloedd cymunedol i annog cymdeithasu ac mae llu o gyfleusterau ar y safle i chi eu mwynhau.

Mae Gorwel Newydd ar arfordir hyfryd Gogledd Cymru yn y Rhyl. Mae’n hawdd ei gyrraedd trwy’r cysylltiadau teithio cyfleus i brif drefi Gogledd Cymru a thu hwnt. Mae’r cyfleusterau a’r siopau lleol o fewn pellter cerdded, gan gynnwys arosfan bws, gan ei gwneud hi’n hawdd i chi gyrraedd ardaloedd eraill.

pdf
Taflen Gorwel Newydd
Lawrlwythwch

Ffurflen ymholiad

Enw(Required)
E-bost(Required)
Neges