Yn ddiweddar, cafodd wyth o bobl ifanc o ogledd Cymru gyfle i ddathlu carreg filltir bersonol wrth iddynt raddio’n llwyddiannus o raglen interniaeth cyflogaeth gynhwysol 12 mis o hyd. Derbyniodd y graddedigion eu tystysgrifau mewn seremoni raddio arbennig yn Llys Raddington, Y Fflint.
Roedd yr wyth intern ifanc dawnus yn dathlu ar ôl cwblhau eu rhaglenni interniaeth, yn dilyn blwyddyn o leoliadau gwaith ymarferol gyda chyflogwyr blaenllaw ledled Sir y Fflint.
Mae pob un o’r graddedigion yn y llun uchod (o’r chwith i’r dde), Shane, Dylan, Thomas, Lily, Daniel, Adam, Arijus a Kate wedi cwblhau rhaglen interniaeth DFN Project Search gyda chefnogaeth Hft, ClwydAlyn a BIPBC. Gwnaethant ddangos ymroddiad llawn yn eu lleoliadau gwaith, a hynny mewn gwahanol adrannau yng nghymdeithas dai ClwydAlyn, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chyngor Sir y Fflint.
Mae Rhaglen Interniaeth DFN Project Search yn gynllun sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol ac mae’n cefnogi oedolion ifanc ag anawsterau dysgu neu awtistiaeth i dreulio blwyddyn gyda sefydliad. Mae’r rhaglen yn cael ei hwyluso gan bartneriaeth rhwng dwy elusen, DFN a Hft, a’i nod yw helpu i baratoi unigolion ar gyfer y gweithle drwy wella sgiliau bywyd, meithrin hyder, a hybu annibyniaeth.
Thomas, un o’r interniaid, a’i rieni yn y seremoni raddio. Cwblhaodd Thomas interniaeth paentio ac addurno yn WallLag drwy ClwydAlyn.
Cafodd pob un o’r interniaid gyfle i dreulio amser mewn o leiaf un lleoliad gwaith yn ystod y rhaglen, gyda rhai ohonynt yn ymgymryd â dwy neu dair rôl wahanol.
“Fy nghyngor i unrhyw un sy’n meddwl am wneud hyn yw; yn bendant, ewch amdani! Mae wedi newid popeth i mi.”
Ar ôl graddio, mae’r interniaid yn barod i ddechrau ar y bennod nesaf yn eu gyrfaoedd. Mae rhai ohonynt eisoes wedi dod o hyd i waith. Ymhlith y rhain mae Adam, sydd wedi cael cynnig Prentisiaeth yn Preswylfa yn yr Wyddgrug, ac Arijus sydd bellach yn gweithio yng Nghlwb Pêl-droed Dinas Caer.
Mae’r interniaid eraill yn ystyried cyfleoedd pellach i ddatblygu eu gyrfaoedd yn y dyfodol ac ymgeisio am swyddi newydd.
Dywedodd Sian Williams, Cyfarwyddwr Gweithredol Pobl, Diwylliant a Chyfathrebu ClwydAlyn, a oedd yn bresennol yn y seremoni: “Roedd y Digwyddiad Graddio diweddar yn gyfle gwych i edrych nôl a dathlu’r bobl ifanc ysbrydoledig hyn. Mae’r interniaid wedi bod yn llawn brwdfrydedd ac yn benderfynol, ac wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol i ClwydAlyn. Rydyn ni’n falch ein bod wedi bod yn rhan o’u taith hyd yma. Mae’r lleoliadau gwaith hyn wedi rhoi cyfle iddyn nhw ddysgu sgiliau newydd, ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle a meithrin hyder ar gyfer y dyfodol.
“Fel sefydliad sy’n rhoi gwerth ar obaith, roedden ni’n falch iawn ein bod yn gallu helpu’r interniaid i ganolbwyntio ar wireddu eu potensial ac ennill profiad gwaith. Rydyn ni wedi cymryd rhan yn y rhaglen hon ers sawl blwyddyn, ac rydyn ni’n edrych ymlaen i barhau i gynnig cyfleoedd i interniaid cynllun DFN Project Search yn y dyfodol.”
Dywedodd Kirsty Matthews, Prif Swyddog Gweithredol DFN Project SEARCH: “Rydyn ni’n hynod o falch o bawb sydd wedi cwblhau eu Hinterniaethau â Chymorth yn ClwydAlyn, gan ddangos y gall pobl ifanc sydd ag anabledd dysgu, sy’n awtistig, neu’r ddau, yn gallu ffynnu yn y gweithle os byddan nhw’n derbyn y cymorth a’r cyfleoedd cywir.
Mae ein partneriaeth gyda ClwydAlyn yn dal i agor drysau a fyddai wedi bod ar gau fel arall o bosibl, gan brofi bod cyflogaeth gynhwysol nid yn unig yn beth da ynddo’i hun – mae’n dda i fyd busnes. Mae pob stori o lwyddiant yn dangos beth sy’n bosibl pan fyddwn ni’n buddsoddi ym mhotensial ein pobl ifanc”.
Dywedodd llefarydd o Hft: “Mae’n anrhydedd gan Hft i barhau i gefnogi interniaid presennol a’r dyfodol ar y rhaglen hon. Rydyn ni wedi ymrwymo i feithrin dyheadau a rhoi cyfleoedd i bobl ystyried profiadau newydd, datblygu eu sgiliau, a chyflawni eu potensial.”
Dywedodd Dyfed Edwards, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Un o uchafbwyntiau fy mlwyddyn yw cael mynychu ein seremoni raddio i interniaid a chyfarfod y bobl ifanc anhygoel sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglenni. Mae bob amser yn ysbrydoledig cael clywed am eu profiadau a gweld cymaint maen nhw wedi datblygu yn ystod eu hamser gyda ni.
“Mae ein hinterniaid yn dod â brwdfrydedd a safbwyntiau ffres ac maen nhw wir yn ysbrydoliaeth. Maen nhw wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol i dimau ar draws y Bwrdd Iechyd, a dylid dathlu eu cyflawniadau.
“Hoffwn longyfarch pob un o’r graddedigion am gwblhau eu hinterniaeth a diolch iddyn nhw am yr effaith maen nhw wedi’i chael ar ein sefydliad. Rwy’n dymuno’r gorau i bawb yn y dyfodol ac rwy’n edrych ymlaen i weld ble fyddan nhw’n mynd nesaf yn eu gyrfaoedd.”
Mae’r rhaglen wedi rhoi cyfleoedd i’r cyfranogwyr ddatblygu sgiliau ymarferol, meithrin hyder, a chael blas ar yrfaoedd yn y GIG a’r sector gofal iechyd ehangach.
Roedd y digwyddiad graddio yn cydnabod gwaith caled, ymroddiad a datblygiad personol y myfyrwyr yn ystod eu lleoliadau.
Dywedodd Tracey Amos, Arweinydd Gweithredol Interniaethau Project Search ac Interniaethau â Chymorth y Bwrdd Iechyd: “Rydyn ni’n hynod o falch o’r holl raddedigion sydd wedi cwblhau ein rhaglen interniaeth eleni. Mae eu brwdfrydedd, ymroddiad a’u parodrwydd i ddysgu wedi cael effaith wirioneddol ar draws ein gwasanaethau.
“Mae’r rhaglen interniaeth yn rhan bwysig o’n gwaith i feithrin talent y dyfodol a helpu pobl ifanc i ystyried yr amrywiaeth eang o yrfaoedd sydd ar gael yn y GIG.
“Hoffwn ddiolch i’n holl bartneriaid a staff y Bwrdd Iechyd hefyd am gefnogi Interniaethau Project SEARCH/interniaethau â chymorth ledled Gogledd Cymru; hebddyn nhw, ni fyddai’r rhaglenni yn gymaint o lwyddiant.”
I gael rhagor o wybodaeth am DFN Project Search, a sut gallwch ymgeisio i fod yn rhan o’r cynllun, ewch i: Home | DFN Project SEARCH
I gael gwybodaeth am gynnal interniaeth cyflogaeth â chymorth, anfonwch e-bost at: Kelly.higgins@hft.org.uk neu Jennifer.lamb@hft.org.uk
I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd swyddi cyfredol yn ClwydAlyn, ewch i: Home | ClwydAlyn
Class of 2026 - DFN Project Search Graduation