Skip to content

Mae’r pâr priod, Sylvia a John Harper, wedi bod yn codi arian i gefnogi plant ledled Gogledd Cymru ers degawdau gan gynnal stondin grefft reolaidd yn eu cymuned byw’n annibynnol, Tan y Fron, Llandudno.

“Rydyn ni wedi bod yn codi arian ar gyfer Happy Faces am dros 25 mlynedd,” dywedodd Sylvia Harper, 81 oed. “Rydyn ni wastad wedi gweithio’n galed, ac rydyn ni wrth ein bodd yn cymryd rhan mewn gweithgarddau ar gyfer elusennau.”

Mae Sylvia a John wedi treulio degawdau yn cefnogi elusennau gyda’u hymdrechion.

Mae eu hymroddiad i helpu eraill yn deillio o’u hawydd i rannu eu creadigrwydd a defnyddio eu doniau i helpu achosion teilwng. Pan sefydlodd un o’u ffrindiau oes Ray Herbert MBE elusen Happy Faces, penderfynodd Sylvia ddefnyddio ei doniau crefft i greu a gwerthu eitemau er budd yr elusen. Mae hi’n crosio cannoedd o eitemau, o fagiau, pyrsiau, mits ac ategolion i gardiau cyfarch, nwyddau i’r cartref a chanwyllbrennau. Mae’r holl elw yn mynd i elusen blant Happy Faces sy’n cefnogi plant sâl a difreintiedig a phlant ag anableddau ledled gogledd Cymru.

Dros y blynyddoedd mae’r arian maent wedi’i godi wedi helpu i ddarparu eitemau hanfodol gan gynnwys bysiau mini, cyfrifiaduron, llyfrau, cadeiriau olwyn, ac eitemau defnyddiol eraill mae eu hangen ar y bobl ifanc.

“Fe wnaethon nhw ofyn i ni helpu gyda sioe elusennol flynyddoedd yn ôl a dyna sut dechreuodd y cyfan.
“Fe wnes i ddechrau gweu dolis clown, ac yna dros gyfnod o amser fe wnaethon ni ddechreu creu pob math o grefftau eraill. Rydyn ni wedi gwerthu eitemau mewn ffeiriau crefft, digwyddiadau cymunedol, gwerthiannau cist car – ym mhob man! Rydyn ni wastad yn chwilio am ffyrdd newydd o gefnogi’r elusen.”
Sylvia Harper
ClwydAlyn Resident

Mae cefndir creadigol y pâr priod wedi chwarae rhan arwyddocol yn eu llwyddiant wrth godi arian. Mae John, 90 oed, yn gerddor ac fe wnaeth Sylvia hyfforddi fel dawnswraig cyn datblygu ei doniau crefft ac ysgrifennu. Mae hi hefyd wedi cyhoeddi sawl llyfr, gan gynnwys cyfres o lyfrau plant ac un llyfr am fyw gydag anabledd.

Pan symudodd y pâr i gynllun byw’n annibynnol Tan y Fron ym mis Gorffennaf 2025, fe wnaethon nhw ddod â’u meddylfryd codi arian i’r gymuned. Gydag anogaeth y preswylwyr eraill a rheolwr y cynllun, aethant ati i drefnu eu stondin grefft gyntaf yn y cynllun.

Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol ac mae’r stondin bellach i’w gweld yn rheolaidd ochr yn ochr â stondinau tymhorol, a phob math o ddigwyddiadau codi arian drwy gydol y flwyddyn.

“Mae ymroddiad Sylvia a John i godi arian yn rhagorol. Dros y blynyddoedd maen nhw wedi dangos tosturi a charedigrwydd ac wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau llawer o bobl!
“Rydyn ni wrth ein bodd fod Tan y Fron yn rhywle lle gall ein preswylwyr arddangos eu talentau, ac mae’n wych gweld y preswylwyr yn cefnogi ei gilydd tra’n codi arian i achosion mor deilwng. Rydyn ni’n hynod o falch o Sylvia a John.”
Debjani Basu
Rheolwr Cynllun Tan y Fron

Does gan y pâr priod ddim cynlluniau i arafu. Dywedodd Sylvia: “Rydyn ni bob amser yn meddwl am syniadau newydd, ac er fy mod i a Ray yn 81 oed, ac mae John yn 90 oed, rydyn ni’n dal ati a byth yn stopio!”

“Felly, cadwch lygad am ragor o bethau i ddod!”

I gael mwy o wybodaeth am elusen blant Happy Faces, ewch i: www.happyfaceschildrenscharity.org.uk

I gael mwy o wybodaeth am Tan y Fron, ewch i: Tan Y Fron, Llandudno – Clwydalyn