Skip to content

Mae Llys Eleanor yn gynllun Byw’n Annibynnol i bobl hŷn a adeiladwyd i’r diben, sy’n cynnig cyfuniad unigryw i chi o fywyd annibynnol, ond gyda gofal cartref 24 awr y dydd ar y safle a chefnogaeth yn ôl yr angen, gan roi tawelwch meddwl i chi yn awr ac at y dyfodol.

Rydym wedi defnyddio ein profiad eang i ddatblygu fflatiau o safon uchel, sydd wedi eu hadeiladu i’r diben gan gynnig amgylchedd delfrydol ar gyfer eich holl anghenion, gan gynnig Gofal Cartref, cefnogaeth a chymorth i hybu eich annibyniaeth.  Mae ein sylw i ddylunio da wedi ymestyn at bob agwedd o’r cynllun a’r fflatiau – maent wedi eu hinswleiddio fel eu bod yn gyfforddus ac yn effeithlon o ran ynni, mae ynddynt dechnoleg i helpu i gefnogi bywyd annibynnol ac maent yn ddiogel a chyfleus, ac eto yn cynnig amgylchedd cartrefol a modern, mewn gerddi deniadol sy’n cael eu cynnal yn dda.

Mae gwneud ffrindiau newydd yn hawdd, datblygwyd yr ardaloedd cymunedol i annog cymdeithasu ac mae llu o gyfleusterau ar y safle i chi eu mwynhau.

Mae Llys Eleanor yn nhref Shotton, yn agos i reilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Mae’n hawdd ei gyrraedd trwy’r cysylltiadau teithio cyfleus. Mae’r cyfleusterau a’r siopau lleol o fewn pellter cerdded byr, gan gynnwys arosfannau bws a gorsaf drên, gan ei gwneud hi’n hawdd i chi gyrraedd ardaloedd eraill.

pdf
Taflen Llys Eleanor
Lawrlwythwch

Ffurflen ymholiad

Enw(Required)
E-bost(Required)
Neges