Skip to content
Staff collaborating on a laptop
Llwybrau / Hyfforddeion
Rydym yn cynnig Llwybrau Gyrfa cyflogedig i helpu pobl nad oes ganddynt yr holl sgiliau a phrofiad angenrheidiol i wneud eu gwaith.

Gall y llwybrau amrywio o lefel mynediad i lefelau uwch. Ar sail eich sgiliau a’ch profiad, byddwn yn teilwrio cynllun datblygu i’ch helpu i gael y sgiliau perthnasol a’r cymwysterau i’ch helpu i gyrraedd nodau eich gyrfa.
Dysgwch ragor
Heating and Plumbing engineer talking with resident
Prentisiaethau
Mae hon yn ffordd i ‘ennill a dysgu’ ar yr un pryd!

Yn nodweddiadol byddwch yn mynd i’r coleg unwaith yr wythnos ac yn cyfarfod eich asesydd yn y gweithle yn gyson i’ch helpu i gyflawni’r sgiliau penodol i swydd i fodloni eich prentisiaeth a chael cymhwyster sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol.

Mae amrywiaeth o brentisiaethau ar gael ac maent yn nodweddiadol yn parhau am rywle rhwng 12 a 36 mis cyflogedig ar y Lleiafswm Cyflog Cenedlaethol.
Dysgwch ragor
Nige, Llinos & Jayne with high vis
Gwirfoddoli
Ffordd o ‘roi rhywbeth yn ôl’ neu hyd yn oed i ddysgu sgiliau newydd a chyfarfod pobl newydd.

Gallwch ddewis cynnig eich oriau am ddim i helpu i gefnogi eraill a/neu ein gwasanaethau am gyfnod penodol o amser.

Ffordd wych o ddod i adnabod ffrindiau newydd yn ogystal â chryfhau eich sgiliau ar eich CV!
staff member and supported living resident walking down corridor
Profiad gwaith
Gallwn gynnig amrywiaeth eang o leoliadau profiad gwaith, o TG i Waith Coed a phopeth rhwng y ddau!

Boed trwy eich ysgol neu goleg, neu eich bod am roi cynnig ar ychydig o rolau gwahanol a dod o hyd i’r un iawn i chi – gallwn helpu!
we mind the gap logo
We Mind The Gap
Mae ClwydAlyn yn Bartner Gyflogwr ar gyfer WeMindTheGap.

Maent yn cynnig amrywiaeth o raglenni sy’n rhoi profiad gwaith, anogaeth ac anturiaethau i lenwi unrhyw fylchau ym mywydau pobl ifanc 16 i 25 oed. Cliciwch y ddolen i gael gwybod rhagor!
Dysgwch ragor
DFN Project Search
DFN Project Search
Ochr yn ochr â Hft a Chyngor Sir y Fflint, mae ClwydAlyn wedi bod yn bartneriaid balch o DFN Project Search am dros 4 blynedd.

Dyluniwyd y rhaglen hon i gynnig profiad gwaith ystyrlon i bobl ifanc ag anawsterau dysgu a/neu awtistiaeth gyda’r nod yn y pen draw o ddod o hyd i waith. Cliciwch y ddolen isod i ddysgu rhagor am y rhaglen wych hon!
Dysgwch ragor

Os byddai’n well gennych siarad gyda rhywun am gyfleoedd eraill yn ClwydAlyn, anfonwch e-bost at annie.jackson@clwydalyn.co.uk neu ffoniwch ar 07919217791

Peidiwch â chymryd ein gair ni am y peth, darllenwch y storïau isod

01 - 04

Diddordeb?

Cofrestrwch isod, Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!

Cofrestrwch eich diddordeb