Skip to content

Bydd 31 o gartrefi yng Nghonwy, Gogledd Cymru yn cael budd o dreialu technolegau carbon isel newydd sbon dan arweiniad y gymdeithas dai ClwydAlyn, mewn partneriaeth â Cyd Innovation.

Nid yw’r tai wedi eu cysylltu â phrif gyflenwad nwy ac ar hyn o bryd maent yn cael eu cynhesu gan reiddiaduron trydan, sydd wedi mynd yn gynyddol ddrud i’w gweithredu wrth i brisiau ynni godi. Mae’r rhaglen adnewyddu arloesol yn dangos y potensial o ffrwyno technoleg werdd flaengar i wneud gwresogi yn fwy fforddiadwy a chynyddu cyfraddau effeithlonrwydd.

Mae’r cynlluniau arloesol allweddol sy’n cael eu treialu yn cynnwys defnyddio technoleg papur wal isgoch sy’n cael ei gynhesu, silindrau dŵr poeth clyfar a dulliau rheoli a systemau monitro clyfar. Mae’r technolegau arloesol yma, sy’n rhedeg ar drydan a’u cysylltu â phaneli solar a batri, yn creu cartrefi cynhesach ar gost sylweddol is na ffynonellau traddodiadol ac yn allyrru tua 50% yn llai o garbon deuocsid na systemau tanwydd ffosil fel olew neu nwy potel.

Dywedodd Pennaeth Technegol, Arloesedd a Hinsawdd ClwydAlyn, Tom Boome:

“Bydd y cynllun cyffrous yma yn helpu 31 o aelwydydd i gael cartrefi cynhesach gan arbed swm sylweddol ar eu bil ynni blynyddol. Rydym yn gobeithio y bydd y cynllun hwn yn enghraifft arloesol o’r hyn sy’n bosibl, gan fod o fudd i bobl ar draws y wlad yn y dyfodol.”

“Mae gennym dystiolaeth anecdotaidd am dlodi tanwydd lle mae costau gwresogi wedi effeithio’n ddifrifol ar breswylwyr, i’r fath raddau fel eu bod wedi diffodd y gwres yn llwyr neu ddefnyddio rheiddiaduron symudol llawn olew yn y gaeaf.”

Derbyniodd y cynllun cyntaf o’i fath £1.7 miliwn gan Lywodraeth Cymru a bydd yn targedu 120 o gartrefi ClwydAlyn yn 2023 gyda’r potensial i gynnwys mwy o gartrefi trwy ragor o gyllid yn y ddwy flynedd nesaf. Mae ClwydAlyn wedi ffurfio partneriaeth gyda Cyd Innovation, arbenigwr ôl-osod a gwerth cymdeithasol annibynnol lleol, i wneud y mwyaf o effaith y prosiect trwy sicrhau bod y buddsoddiad hefyd yn creu swyddi lleol a chyfleoedd hyfforddi.

Ychwanegodd Steven Reynolds, Sefydlydd Cyd Innovation:

“Mae costau byw uchel yn golygu ei bod yn allweddol i ni yrru buddsoddiad i wneud cartrefi yng Ngogledd Cymru yn fwy fforddiadwy i’w gwresogi. Mae cyfleoedd cyllido fel hyn yn creu deilliannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol sylweddol gan gynnwys creu swyddi newydd, gwell sefyllfa ariannol mewn aelwydydd a gwell iechyd corfforol a meddyliol, a all newid bywydau.

“Fel sefydliad, rydym yn canolbwyntio ar gael gwared ar dlodi a chyflawni datgarboneiddio trwy ymgynghoriaeth ôl-osod ynni effeithlon arbenigol gan roi cefnogaeth i’n cwsmeriaid i symud eu cartrefi at sero net. Mae hyn yn cynnwys sicrhau buddsoddiad a chyfleoedd datblygu cadwyn gyflenwi leol i gefnogi gwelliant mewn cymunedau.”

Llwyddodd y contractwr o’r Wyddgrug, Wall-Lag i ennill y contract i fod yn brif osodwr ar y rhaglen, gyda’r cynllun yn cefnogi 12 swydd newydd, gan gyfrannu at yr economi leol, ond hefyd yn pwysleisio gwneud y mwyaf o wariant lleol i ysgogi twf economaidd.

Mae’r cartrefi cyntaf yn cael eu harolygu ar hyn o bryd, a disgwylir i’r gwaith gosod ddechrau yn yr ychydig wythnosau nesaf. Bydd synwyryddion yn cael eu gosod yn yr eiddo fel y gellir cynnal asesiad manwl o fanteision y technolegau newydd, a bydd y wybodaeth yn cael ei rhannu â Llywodraeth Cymru i fod yn sail i lunio penderfyniadau cyllido yn y dyfodol.