Skip to content

Mae grŵp o bobl ifanc o Dreffynnon wedi elwa ar sesiwn sgiliau o’r enw Y Penderfynwyr / The Decider, strategaeth ymddygiad gwybyddol ar sail tystiolaeth sy’n helpu unigolion i reoli emosiynau, lleihau trallod, a gwneud penderfyniadau cadarnhaol. Cyflwynwyd y sesiwn galw heibio gan Skills + er mwyn helpu oedolion ifanc i reoli emosiynau, gwella sgiliau rhyngbersonol ac ymwybyddiaeth ofalgar a goroesi argyfwng.

Mae preswylwyr ifanc Llys Emlyn Williams, cynllun byw â chymorth yn Nhreffynnon, wedi elwa ar sesiwn ymyriad sydd wedi eu helpu i ddeall sut i reoli eu hemosiynau mewn amgylchiadau heriol. Cafodd sesiwn sgiliau Y Penderfynwr / The Decider ei arwain gan dîm Sgiliau i Fyw /Skills Plus + Action for Children (Gogledd Cymru).

Yn ystod y sesiwn, cyflwynwyd technegau ymarferol i wella cwsg, ymarferion anadlu, dulliau sefydlogi hwyliau a rheoli straen. Trwy gymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau i helpu llesiant, roedd y cyfranogwyr yn gallu deall manteision gwneud dewisiadau cadarnhaol.

“Roedd yn wych gweld y bobl ifanc yn cael hwyl, yn ymwneud â’i gilydd ac yn dysgu dulliau dysgu ymarferol y gallan nhw eu defnyddio yn eu bywyd bob dydd."
Lisa Hibberd
Action for Children
“Roedd sesiwn galw heibio Y Penderfynwr / The Decider yn werthfawr iawn i’r preswylwyr ifanc a gymerodd ran. Fe wnaethon nhw ddysgu technegau gwych i’w helpu i feithrin gwydnwch a delio â sefyllfaoedd sy’n codi bob dydd. Roedd cyfle hefyd iddyn nhw weithio gyda mentor i’w helpu i ddod o hyd i gyrsiau addysgol a chyfleoedd gwaith.”
Sean McManus
rheolwr Llys Emlyn Williams

Cymerodd chwech o’r preswylwyr ran yn y sesiwn strategaethau ymddygiad gwybyddol ar sail tystiolaeth sy’n helpu unigolion sydd wedi cael profiad o’r system ofal. Mae’r sgiliau bywyd ac ymarferol yn eu galluogi i symud ymlaen i fod yn oedolion hapus ac iach. Rydym yn rhagweld y bydd sesiynau Y Penderfynwr / The Decider yn cael eu cyflwyno i gynlluniau byw â chymorth ClwydAlyn eraill ledled Gogledd Cymru.

Dywedodd y preswyliwr Amy: “Fe wnes i fwynhau’r sesiwn yn fawr ac roedd yn werthfawr iawn. Hoffwn i roi cynnig ar greu bisgedi emosiynau eto gyda staff Llys Emlyn Williams.”

Dywedodd y preswyliwr Sean: “Roedd y sesiwn yn anhygoel.”

Dywedodd y preswyliwr Alex: “Fe wnaethon nhw ddangos techneg ddefnyddiol iawn i reoli dicter. Mae’n rhaid i chi chwilio am bump o bethau y gallwch eu cyffwrdd, pump o bethau y gallwch eu gweld a phump o bethau y gallwch eu clywed; mae’n helpu i setlo’r hwyliau ac roeddwn yn ei hoffi’n fawr.”

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y sesiynau Sgiliau Penderfynu  /Decider Skills, cysylltwch ag Action for Children Sgiliau i Fyw /Skills Plus + (Tîm Gogledd Cymru) yn Skills Plus + | Gogledd a Chanolbarth Cymru | Action For Children

Os hoffech gyfeirio rhywun at gynllun Llys Emlyn Williams, Treffynnon, cysylltwch â Gwasanaethau Cymorth Tai Cyngor Sir y Fflint.

I gael manylion am gynlluniau byw â chymorth ClwydAlyn ledled Gogledd Cymru, ewch i: Byw â chymorth – Clwydalyn