Daeth Callum Roberts i ganolfan byw â chymorth brys The Bell fel hogyn ifanc digartref 16 oed. Erbyn hyn, mae wedi mynd ati i gyfansoddi a recordio cân ysbrydoledig o’r enw ‘Blessings in The Bell’, sy’n seiliedig ar ei brofiadau personol.
Cafodd Callum Roberts ei wneud yn ddigartref ym mis Awst 2024, pan oedd yn 16 oed. Roedd llety brys ar gael iddo pan oedd arno ei angen fwyaf, a chafodd le i fyw yn The Bell, Bae Colwyn.
Cafodd y profiad hwn effaith fawr ar fywyd Callum ac mae wedi mynd ati i fynegi ei ddiolchgarwch a’i deimlad o obaith mewn cân sy’n cyfleu ei emosiynau ar y pryd. Aeth ati i gyfansoddi a recordio’r gân mewn wythnos, a chafodd ei recordio ar iPhone a’i chwarae yng Nghynhadledd Flynyddol Cartrefi Cymunedol Cymru (CCC) yng Nghaerdydd yr wythnos ddiwethaf.
Pan gafodd ‘Blessings in The Bell’ ei chwarae, roedd Callum ar ben ei ddigon. Roedd staff y llety byw â chymorth yno hefyd i weld ymateb Callum a’i helpu i ddathlu ei gyflawniad. Cafodd y cynadleddwyr gyfle i glywed am y neges y tu ôl i’r gân, a gweld y gwir effaith gall llety brys ei chael ar adeg o angen.
Pan ddaeth Callum i ganolfan The Bell, doedd ganddo ddim syniad beth i’w ddisgwyl. Ond fe wnaeth The Bell gynnig llawer mwy na lle i gysgu dros nos; daeth Callum i gysylltiad â phobl oedd yn barod i wrando a gofalu’n gynnes amdano, a chynnig y sefydlogrwydd y mae gwir ei angen ar unigolyn ifanc heb gartref.
Mae’r geiriau nid yn unig yn mynegi’r heriau oedd yn wynebu Callum, ond hefyd y teimlad o obaith yn yr wythnosau a’r misoedd ar ôl iddo ddod yn ddigartref.
Er nad yw Callum wedi derbyn hyfforddiant ffurfiol yn y maes, mae cerddoriaeth yn rhan bwysig o’i fywyd. Fe wnaeth brawd Callum ei helpu i ddechrau creu traciau a’i annog i ddal ati gyda’i gerddoriaeth. Y canlyniad yw trac gonest ac ysbrydoledig sy’n cyfleu gwydnwch Callum.
“Roeddwn i’n falch iawn o glywed fy nghân yn cael ei chwarae yn y gynhadledd, a dw i’n gobeithio gallu dal ati i greu cerddoriaeth.”
Mae Callum bellach yn byw yn Llandudno ac yn ogystal â chreu cerddoriaeth, mae’n gobeithio dilyn gyrfa yn y byd adeiladu. Ar yr un pryd, mae’n denu dilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol lle mae’n postio ei gerddoriaeth ac yn creu cysylltiadau â phobl eraill.
“Mae’n wych gweld Callum yn defnyddio ei ddawn i ysbrydoli eraill.”
Ar ôl cael ei gydnabod yn gyhoeddus am y tro cyntaf, mae Callum yn bwriadu parhau i gyfansoddi a recordio cerddoriaeth.
I glywed cerddoriaeth Callum, ewch i Instagram @calgordz
I wrando ar gân Callum ‘Blessings in The Bell’
I gael rhagor o wybodaeth am lety byw â chymorth ClwydAlyn, ewch i: Byw â chymorth – Clwydalyn