Mae ysbryd cymunedol i’w weld ym mhob man dros gyfnod y Nadolig; ac mae hyn yn sicr yn wir yn Neuadd Maldwyn, cynllun byw’n annibynnol i bobl dros 60 oed o’r ardal leol.
Dechreuodd y preswylwyr symud i mewn i’r 66 o fflatiau ym mis Ebrill 2025 ac ers hynny maent wedi creu cymuned fywiog, lle maent yn mwynhau llawer o weithgareddau, gan gynnwys gwibdeithiau, dosbarthiadau ymarfer corff, gweithgareddau crefft, digwyddiadau codi arian, yn ogystal â threulio amser yn yr ardaloedd cyffredin, sy’n gwneud y cynllun mor arbennig.
Gyda llawer o ddigwyddiadau wedi’u trefnu ar gyfer y Nadolig, bydd amserlen y preswylwyr yn llawn dop! Bydd y côr meibion lleol yn galw heibio i berfformio i’r preswylwyr a’u teuluoedd ar 15 Rhagfyr. Yn ogystal â hyn, dewiswyd Neuadd Maldwyn fel lleoliad Cyngerdd Nadolig blynyddol y Gwasanaeth Tân ar 18 Rhagfyr.
Mae’r preswyliwr Steve Sharman (yn y llun) yn adnabyddus i’w gyd-breswylwyr am ei ysbryd cymunedol a’i frwdfrydedd wrth godi arian i elusennau. Aeth ati i drefnu taith i’r preswylwyr ar drên bach y Trallwng a Llanfair. Er bod Mr Sharman yn derbyn triniaeth ar gyfer canser ar hyn o bryd, nid yw hyn wedi ei atal rhag rhoi rhywbeth nôl ac yn ddiweddar cododd £60 at elusen Macmillan drwy werthu teganau meddal.
Mae preswyliwr arall, Judith Jones (hefyd yn y llun), mor hapus yn ei chartref a’i chymuned newydd, mae hi wedi cael ei hysbrydoli i ysgrifennu cyfres o gerddi am ei phrofiadau yn Neuadd Maldwyn. Mae cerdd Judith, The Train Trip, yn adrodd stori’r diwrnod gwych a gafodd y preswylwyr ar y rheilffordd stêm.
“Mae llawer o bethau wedi cael eu trefnu ar gyfer cyfnod yr ŵyl. Mae’r addurniadau yn edrych yn hyfryd ac mae’r dathliadau yn eu hanterth; rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at ein Nadolig cyntaf yma!”
Beth yw byw’n annibynnol?
Mae byw’n annibynnol yn helpu pobl i fyw’n well ar eu telerau eu hunain, yn eu cartref eu hunain, gyda’r cyfle i dderbyn rhywfaint o gymorth ychwanegol os a phryd y bydd ei angen arnynt. Mae gan Neuadd Maldwyn 66 o fflatiau hunangynhaliol, sydd wedi’u cynllunio i fod yn gyfforddus, yn ddiogel ac yn hygyrch.
Mae pob preswyliwr yn cael cynnig cinio cynnes a maethlon yn y bwyty bob dydd. Mae staff ar gael i sicrhau bod y cynllun yn ddiogel ac yn lân. A gall y preswylwyr ddefnyddio llawer o’r ardaloedd cyffredin naill ai i dreulio amser ar eu pen eu hunain neu i gymdeithasu neu wneud gweithgareddau fel rhan o grŵp mwy.
Mae byw yn Neuadd Maldwyn yn galluogi’r preswylwyr i gadw eu hannibyniaeth, tra’n mwynhau’r sicrwydd bod cymorth wrth law, petai ei angen arnynt.
“Ac wrth i ni baratoi i ddathlu’r Nadolig cyntaf yma, mae gweld y preswylwyr wedi’u hamgylchynu gan ffrindiau a theulu, ac yn teimlo’n gartrefol, yn cyfleu’r profiad o fyw’n annibynnol i’r dim.”
I gael rhagor o wybodaeth am Neuadd Maldwyn a chynlluniau byw’n annibynnol eraill ClwydAlyn ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru, ewch i: Byw’n annibynnol i bobl hŷn – Clwydalyn