Skip to content

Mae ClwydAlyn mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth Cymru yn falch o gyhoeddi bod y gwaith wedi’i gwblhau ar y datblygiad o 23 o dai newydd, fforddiadwy ac ynni-effeithlon ym Mhentraeth, Ynys Môn. Adeiladwyd y tai gan Williams Homes ar ran ClwydAlyn, gan adlewyrchu ymrwymiad y cwmni tai cymdeithasol i ddarparu cartrefi fforddiadwy ac effeithlon o ran ynni yng Ngogledd Cymru.

Nod ClwydAlyn yw mynd i’r afael â thlodi tanwydd drwy roi blaenoriaeth i effeithlonrwydd ynni, a helpu i leihau’r effaith y gall cartrefi llai effeithlon o ran ynni ei chael ar iechyd a lles pobl. Wedi’u hadeiladu gan ddefnyddio technolegau gwyrdd a dyluniadau blaengar, mae’r cartrefi newydd hyn yn gam mawr ymlaen wrth roi sylw i’r angen am dai fforddiadwy ac eco-gyfeillgar yng Nghymru. ClwydAlyn fydd yn rheoli 13 o’r tai a bydd deg tŷ yn cael eu rheoli gan Gyngor Sir Ynys Môn.

Dywedodd Craig Sparrow, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu ClwydAlyn: Rydym yn falch iawn o gyflwyno’r tai hyn fel tystiolaeth o’n hymrwymiad parhaus i gynnig atebion tai fforddiadwy ac ynni-effeithlon. Dyma garreg filltir arall ar ein taith i newid ein cymunedau drwy arferion adeiladu cynaliadwy.”

Dywedodd y Cynghorydd Gary Pritchard, Deilydd Portffolio Tai a Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Ynys Môn, “Mae’r prosiect diweddaraf yma ym Mhentraeth yn tanlinellu ein hymrwymiad parhaus i ddarparu tai fforddiadwy, ynni-effeithlon, o ansawdd i bobl leol a theuluoedd, sef rhan allweddol o faniffesto Plaid Cymru.”

Ychwanegodd, “Mae ein Strategaeth Dai 2022–2027 yn chwarae rhan annatod wrth i ni weithio’n annibynnol, a gyda phartneriaid allweddol, i barhau i fodloni anghenion ein preswylwyr lleol heddiw ac yn y dyfodol.”

Mae’r preswylwyr yn edrych ymlaen yn fawr at symud i’w cartrefi newydd oherwydd gall y tai hyn wneud gwahaniaeth mawr. Byddant yn helpu preswylwyr i amddiffyn yr amgylchedd, yn ogystal ag arbed ynni gwerthfawr, ac arian hefyd o bosibl yn y tymor hir.