Skip to content

I gloi Mis Pride eleni, mae ClwydAlyn yn clywed gan y Cadeirydd newydd am ddod allan, yn ogystal â’r ffyrdd y gallwn ni i gyd fod yn well cynghreiriaid.

I lawer mae bod yn LHDTC+ yn dal i olygu wynebu heriau dyddiol. Mae’r achosion o droseddau casineb homoffobig yn cynyddu yn y Deyrnas Unedig, felly, er y gall ymddangos bod pethau wedi gwella, er mwyn nodi diwedd mis Pride mae’n bwysig cofio, i rai, nad yw hynny’n wir.

Buom yn siarad â Cris McGuiness, sydd wedi cael eu penodi yn Gadeirydd newydd ClwydAlyn, i glywed eu hanes am ddod allan a thrafod bod yn esiampl i bobl ac yn gynghreiriaid: pam ei bod yn allweddol codi llais i gefnogi cydweithwyr LHDTC+.

Cychwynnodd Cris eu gyrfa yn un o’r pedwar cwmni cyfrifyddu mawr yn hwyr yn y nawdegau ac nid oedd y sector, fel nifer o rai eraill, yn lle hawdd i weithio bob amser.

“Nid oedd unrhyw un yr un fath â fi. Roeddwn yn gwybod bod fy rhywioldeb yn broblem i’m cyflogwr, yn arbennig gan fy mod yn mynd â’m cariad (fy ngwraig erbyn hyn) i ddigwyddiadau corfforaethol.”

“Hyd yn oed bryd hynny - roedd yn hysbys bod y sector cyhoeddus yn lle mwy diogel i fod yn LHDTC+. Felly, fe es i weithio i gymdeithas dai fechan yn Lerpwl. Mewn sawl ffordd roedd yn teimlo fel mynd adref, yn sydyn nid oedd rhaid i mi guddio pwy oeddwn i.

“Dros y blynyddoedd ers hynny, rwyf wedi gweithio i lawer o sefydliadau tai cymdeithasol o bob math a maint, ac yn anaml iawn yr wyf wedi dod ar draws homoffobia."

“Rwy’n meddwl bod fy ngyrfa gynnar wedi gwneud i mi sylweddoli pa mor bwysig yw modelau rôl gweladwy a chael eich derbyn yn y gweithle. Ceir llawer o ddarnau o ymchwil sy’n dangos bod unigolion ar eu mwyaf cynhyrchiol pan fyddant yn gallu bod yn nhw eu hunain – llai o egni’n cael ei dreulio yn cydymffurfio a mwy ar wneud y gwaith yn dda.”
Cris McGuiness
Cadeirydd ClwydAlyn

Felly, beth all cwmnïau a chynghreiriaid syth ei wneud i helpu? Dywed Cris, ei bod yn teimlo, yn ei swydd uwch, bod ganddi gyfrifoldeb i annog pawb i dderbyn a hyrwyddo newid:

“Wrth gael swyddi uwch daw cyfrifoldeb.   Cyfrifoldeb i herio ymddygiad nad yw o gymorth, i sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau yn gynhwysol a theg ac i sicrhau bod ein gwasanaethau yn bodloni anghenion unigolion.

“Fe fydd tenantiaid yn ClwydAlyn o hyd sy’n teimlo bod arnynt angen cuddio nhw eu hunain pan fydd cydweithwyr yn ymweld â’u cartrefi neu staff yn teimlo bod angen iddynt guddio eu gwir hunaniaeth wrth ddod i’r gwaith; gan gael gwared o unrhyw beth sy’n dynodi eu bod yn LHDTC+ gan eu bod ofn cael eu beirniadu. Yr hyn yr wyf yn gobeithio ei gyflawni fel Cadeirydd ClwydAlyn, o ran Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yw bod pob cydweithiwr a thenant yn teimlo’n ddiogel i fod yn pwy bynnag ydyn nhw mewn gwirionedd.”

I Cris, mae modelau rôl a chynghreiriaeth yn chwarae rôl allweddol i ysbrydoli pobl i gael y nerth i fod yn nhw eu hunain go iawn,

“Fe fyddwn wedi gwneud unrhyw beth i gael cymheiriad i’w edmygu am yr arweiniad yn fy mlynyddoedd cynnar, i eiriol drosof, fy niogelu a’m cefnogi trwy sefyllfaoedd anodd.

“Pan fyddwn ni’n wirioneddol weladwy, mae gennym y cyfle i helpu eraill, ond yn bwysicaf oll, ein helpu ni ein hunain. Os gallwn ni sefyll ochr yn ochr â’n gilydd, sefyll ar ein traed a sefyll allan yna gallwn fod yn ni ein hunain – gallwn fyw ein bywyd gorau – yn y gwaith ac yn y cartref.

“Ein hamrywiaeth yw ein cryfder ac fel Cadeirydd newydd ClwydAlyn rwy’n gobeithio parhau i yrru’r weledigaeth o fod yn sefydliad cynhwysol a chreu mannau di-ofn lle gall ein tenantiaid a staff gredu y gallant gyflawni pethau anhygoel trwy fod yn nhw eu hunain.”