Skip to content

Nododd seremoni torri’r dywarchen ddechrau’r gwaith ar brosiect £4.5m, a fydd yn gweld 19 o fflatiau’n cael eu hadeiladu i roi cefnogaeth i’r rhai sy’n profi digartrefedd yn ardal Wrecsam.

Bydd cynllun Tŷ Nos yn Wrecsam, sy’n bartneriaeth rhwng Cymdeithas Tai ClwydAlyn, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Llywodraeth Cymru yn gweld 19 o fflatiau un ystafell wely yn cael eu hadeiladu gan GMC Construction.

Mae’r fflatiau fforddiadwy newydd yn rhan o raglen adeiladu uchelgeisiol ClwydAlyn a’i genhadaeth o daclo tlodi yng Ngogledd Cymru; trwy sicrhau bod gan bawb fynediad at dai o safon ragorol ac ymdrin ag achosion ac effeithiau tlodi.

Dywedodd Craig Sparrow, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu ClwydAlyn:

“Rydym yn ymroddedig i weithio gyda’n partneriaid yma ar brosiect Tŷ Nos i fodloni anghenion tai lleol yn yr ardal yn ogystal â chefnogi’r rhai sy’n profi digartrefedd.

“Bydd y prosiect cyffrous yma yn adeiladu ar ein hymrwymiad i drechu tlodi yma yng Ngogledd Cymru yn ogystal â dod â llety addas y mae galw mawr amdano i’r ardal leol, gan gynnig cartrefi newydd, modern a fydd yn bodloni anghenion y boblogaeth leol.”

Bydd y cartrefi hyn yn cael eu hadeiladu yn ôl safonau effeithlonrwydd ynni uchel, yn ôl safonau ‘Beattie Passivhaus’, gyda strwythur ffrâm bren gan Creu Menter a lefel uchel o insiwleiddiad. Gan greu fflatiau effeithlon carbon isel fydd yn sicrhau bod angen yr ynni lleiaf posibl i gadw’r tai yn gynnes, gan leihau costau ynni, gan ddarparu ffordd o fyw mwy gwyrdd a glanach.

 

 

“Roeddwn yn hapus iawn i fynychu'r seremoni torri tir ar gyfer datblygiad newydd Tŷ Nos ClwydAlyn. MI fydd yn prosiect yn cynnwys 19 o fflatiau pwrpasol er mwyn cefnogi pobl digartrefedd yn Wrecsam - yn ogystal a chefnogaeth ar safle er mwyn sicrhau'r gobaith orau o llwyddiant i'r tenantiaid yn symud ymlaen. Gyda 300 o bobl ar draws Wrecsam yn byw mewn llety dros dro, mi fydd hwn yn gyflesuter fydd ei hangen yn fawr ac fydd yn gwneud gwahanaieth i bywydau trigolion lleol. Hoffwn ddiolch i ClwydAlyn am bobeth maen't yn ei wneud i Wrecsam, a llongyfarch nhw wrth iddynt ddechrau ar waith yn Tŷ Nos.”
Aelod Seneddol Ceidwadol dros Wrecsam. Sarah Atherton

Mae cwmni adeiladu o Sir Ddinbych, GMC Construction, yn cyflawni’r gwaith adeiladu, gan ddefnyddio eu harbenigedd eang o ran cyflawni prosiectau adeiladu ar draws Gogledd Cymru am dros 40 mlynedd.

Dywedodd Dylan Williams, Rgeolwr Gweithrediadau o GMC Construction :

“Rydym unwaith eto’n hapus i fod yn gweithio’n agos gyda ClwydAlyn, ynghyd a rhanddeiliaid eraill, er mwyn darparu lletyau fforddiadwy o safon uchel i rhai sy’n ddigartref ym mwrdeitref Wrecsam. Mae sicrhau’r cytundeb yma yn mynd i alluogi ni barhau gyda chyfleoedd cyflogaeth ac uwchsgilio ar gyfer y gynuned leol, gan gynnwys trwy einymgysylltiad parhaol gyda is-gontractwyr a chyflenwyr lleol.

“Trwy ein hymagwedd budd cymunedol sefydliedig, mae’r prosiect yma hefyd yn galluogi ni barhau gyda’n gwaith gyda chymunedau lleol yn Wrecsam, er mwyn darparu hwy gyda buddiannau cymunedol eraill.”

Dywedodd y Cynghorydd David Bithell, Deiliad Portffolio Tai Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam:

“Mae’r nifer o bobl sy’n cysylltu â’r cyngor fel rhai digartref wedi cynyddu’n sylweddol ers dechrau’r pandemig coronafeirws yn 2020 a bydd y cartrefi newydd yma yn darparu unedau preswyl modern ac o safon uchel y mae angen mawr amdanynt, a fydd yn ei dro yn cefnogi adsefydlu ac integreiddio i’r gymuned ehangach.

“Mae’n wych gweld y gwaith yn dechrau ar y cartrefi newydd yma ar Ffordd Holt. “Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gweithio’n galed i symud y prosiect tai gwych yma yn ei flaen.”

Mae’r cynllun yn rhan o raglen ddatblygu ClwydAlyn i ddarparu 1500 o gartrefi newydd yng Ngogledd Cymru erbyn 2025 am fuddsoddiad o £250m gan ddod â chyfanswm y tai y maent yn eu rheoli i dros 7,500.