Skip to content

Mae pum teulu yn dathlu wrth symud i mewn i’w cartrefi fforddiadwy newydd a ddatblygwyd gan y landlord cymdeithasol ClwydAlyn yn Rhoslan, Ynys Môn.

Mae pum teulu lleol wedi dechrau ar bennod newydd yn eu bywydau wrth symud i fyw i ddatblygiad o gartrefi newydd ar safle hen ysgol yng Nghaergybi, Ynys Môn.

Adeiladwyd y cartrefi, sy’n cynnwys dau dŷ 4 ystafell wely a thri tŷ 2 ystafell wely, gan y darparwr tai cymdeithasol ClwydAlyn ar y cyd â DU Construction, Cyngor Sir Ynys Môn, a Llywodraeth Cymru.

Adfywio Safle yn y Dref

Fel yr esboniodd Rheolwr Datblygu Prosiectau ClwydAlyn, John Jones: “Mae’r tai newydd wedi cael eu hadeiladu ar safle’r hen Ysgol Brydeinig a godwyd gan yr Arglwydd Stanley o Alderley yn 1848. Er mwyn dathlu hanes y safle, dewisodd y Cyngor Lleol enwi’r datblygiad newydd yn Lle Stanley. Roedd y plac sydd wedi’i osod ar flaen yr adeilad yn arfer bod ar dalcen blaen yr hen ysgol. Rydyn ni wedi ei adnewyddu a’i osod mewn lle blaenllaw i dalu teyrnged i dreftadaeth y safle.”

Mae’r gwelliannau eraill yn cynnwys gosod rheilins newydd yn lle’r rhai gwreiddiol a oedd wedi dirywio. Cafodd dyluniad y rheilins newydd ei gymeradwyo gan ganllawiau ardal cadwraeth. Dewiswyd y drysau blaen lliw pastel i gyfleu estheteg arfordirol.

Arian Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol yn darparu Cartrefi Hirdymor i deuluoedd ledled Cymru

Ariannwyd y cartrefi yn Rhoslan gan Raglen Gyfalaf Llety Trosiannol (TACP) Llywodraeth Cymru. Mae’r gwaith ailddatblygu strategol hwn wedi galluogi ClwydAlyn i ddarparu tai hirdymor a fforddiadwy, o ansawdd da, ar gyflymder i deuluoedd ac unigolion y mae angen cartrefi arnynt ledled Cymru, yn unol ag amcanion y rhaglen.

Mae’r pum cartref am oes o ansawdd da, y mae angen mawr amdanynt, yn ateb y galw ymhlith teuluoedd Ynys Môn am leoedd addas a fforddiadwy i fyw. Maent yn darparu cartrefi diogel, hirdymor i bobl leol sydd wedi cael anhawster dod o hyd i ddewisiadau fforddiadwy i’w rhentu yn eu cymunedau.

Cartrefi am Oes a Biliau Is

Cafodd y cartrefi hyn gan ClwydAlyn eu dylunio gyda phwyslais ar gynaliadwyedd. Maent yn defnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy fel ynni solar, dulliau gwresogi ffynhonnell aer ac MVHR (Awyru Mecanyddol gydag Adfer Gwres), system awyru sy’n gwella ansawdd yr aer yn y cartrefi ac sy’n fwy effeithlon o ran ynni. Yn ogystal â hyn, mae’r cartrefi yn elwa ar lefelau uchel o inswleiddio modern a fydd yn helpu i gadw gwres, lleihau’r defnydd o ynni yn sylweddol, a gostwng biliau ynni.

I’r preswylwyr, mae hyn yn golygu cartrefi cynnes a chlyd, perfformiad ynni gwell, a biliau ynni is.

“Mae’r prosiect tai newydd hwn mewn partneriaeth â ClwydAlyn yn dangos ein hymrwymiad parhaus i ddarparu tai o ansawdd, gyda gwahanol mathau o ddeiliadaeth, i denantiaid a theuluoedd ledled yr ynys.
“Mae gan Wasanaeth Tai’r Cyngor gyfrifoldeb statudol i asesu anghenion tai ac arwain ar weithio mewn partneriaeth i ddarparu tai o ansawdd yn lleol. Mae ein Strategaeth Dai 2022 ‐ 2027 yn ganolog wrth i ni weithio’n annibynnol, a gyda phartneriaid allweddol, i barhau i fodloni anghenion ein preswylwyr nawr ac yn y dyfodol.”
Cynghorydd Carwyn E Jones
Deiliaid portffolio Tai Cyngor Sir Ynys Môn
"My first impression of my new home is that I love it; I feel really lucky to be moving in here. Previously, my baby boy and I were in temporary accommodation in a small flat, and with our little dog as well, it was difficult. This is going to be so much better for us, and we feel a lot better with having so much more space now."
Ellie Firth
Preswyliwr newydd
“Ar ôl rhentu’n breifat am 12 mlynedd, mae’n wych bod gyda ClwydAlyn. Yn ein cartref diwethaf, roedd bygythiad i’n troi allan ac mae’n bosibl y bydden ni wedi bod yn ddigartref neu wedi gorfod rhannu llety gan fod rhenti preifat am deulu o’n maint ni yn uchel.”
“Roedd y sefyllfa yn achosi llawer o straen ac yn effeithio ar fy iechyd meddwl, ond ar ôl gweld ein cartref newydd yr wythnos ddiwethaf, fe gawson ni’r goriadau heddiw! Rwyf mor hapus i gael sefydlogrwydd tymor hir i’m tair merch; rydyn ni mor ddiolchgar am y cyfle hwn i’r dyfodol.”

Nicola
Preswyliwr

Ychwanegodd John Jones: “Rydyn ni’n hynod o falch o’r cartrefi hyn sy’n galluogi pobl i fyw mewn man diogel, cynnes ac effeithlon. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y preswylwyr newydd yn hapus iawn yn byw yma!”

Mae’r cartrefi hyn yn bodloni ac yn rhagori ar Safon Ansawdd Tai Llywodraeth Cymru, Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru a Safonau Mannau a Chartrefi Prydferth Llywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am y cartrefi yn Rhoslan, Ynys Môn, neu gartrefi eraill a godwyd gan ClwydAlyn, ewch i: Ein Datblygiadau – Clwydalyn