Mae staff y gymdeithas dai o Sir Ddinbych, ClwydAlyn, yn anelu at dynnu sylw at ddigartrefedd unwaith eto, gyda’u deuddegfed ‘Cysgu Allan Mawr’ blynyddol, digwyddiad i godi arian hanfodol at wasanaethau i’r digartref.
Ar 3 Hydref, bydd staff o ClwydAlyn, ynghyd â nifer o sefydliadau lleol eraill, eu teuluoedd a’u ffrindiau yn cymryd rhan yn y Cysgu Allan Mawr. Wedi ei drefnu gan Lynda Williams, y rheolwr byw â chefnogaeth, mae’r digwyddiad yn anelu at gynyddu ymwybyddiaeth o ddigartrefedd, a chodi arian hanfodol i roi hwb i’r ddarpariaeth gan wasanaethau cefnogi lleol.
Mae’r digwyddiad eleni yn cael ei gynnal yng Nghlwb Golff, Silver Birch, Maes yr Haf, Betws-yn-rhos, Abergele ac yn ychwanegol mae’r trefnwyr hefyd yn gwahodd rhai i gymryd rhan yn rhithwir o bob rhan o’r rhanbarth o ble bynnag y maen nhw; eu gardd neu lawr eu hystafell fy w.
Un o brif yrwyr digartrefedd yw diffyg cartrefi fforddiadwy; gyda rhent yng Nghymru ar gyfartaledd yn £752 y mis. Ar draws Gogledd Cymru, gall unigolion neu deuluoedd fynd yn ddigartref am amrywiaeth o resymau, sy’n cynnwys cael eu troi allan gan eu landlord, colli swydd, salwch meddyliol neu gorfforol, problemau perthynas neu hyd yn oed drychinebau fel tân neu lifogydd.
Mae’r Cysgu Allan Mawr yn dwyn aelodau o’r gymuned leol at ei gilydd, i brofi realiti caled digartrefedd.
“Mae pawb yn haeddu cartref diogel, saff a chynnes. Trwy gymryd rhan yn y Cysgu Allan Mawr, boed yn bersonol neu yn rhithwir, gallwch ddangos eich cefnogaeth, tanio sgwrs a helpu i godi arian at y gwasanaethau digartrefedd rheng flaen yr ydym yn eu darparu.”
Bydd yr holl arian fydd yn cael ei godi yn mynd yn uniongyrchol at wasanaethau digartrefedd ClwydAlyn, sy’n darparu timau a chefnogaeth dynodedig i bobl symud ymlaen yn eu bywydau.
Gallwch ymuno i gymryd rhan yn y Cysgu Allan Mawr, neu ofyn am ragor o wybodaeth trwy anfon e-bost at: bigsleepout2025@clwydalyn.co.uk
Neu, fel arall, rhowch yn uniongyrchol i’r elusen trwy’r dudalen JustGiving: https://www.justgiving.com/crowdfunding/lynda-williams-5
Er mwyn cael gwybod rhagor am wasanaethau cefnogi ClwydAlyn, ewch i: Byw â Chefnogaeth – Clwydalyn
Creodd Aelod o Staff ClwydAlyn Matthew flog am ei brofiad o’r Cysgu Allan Mawr yn 2024