Mae pedwar o fyfyrwyr ffilm o un o ysgolion ffilm mwyaf adnabyddus y byd yn creu ffilm ddogfen am Bentref Pwylaidd Penrhos, Gwynedd.
Mae arwyddocâd ailddatblygiad Pentref Pwylaidd Penrhos wedi denu sylw cymunedau lleol a rhyngwladol sy’n awyddus i gofnodi’r cynnydd a hanes Penrhos. Yn ddiweddar, treuliodd grŵp o fyfyrwyr o Ysgol Ffilm Lodz yng Ngwlad Pwyl, un o ysgolion ffilm mwyaf adnabyddus y byd, bythefnos ar safle Penrhos yn ffilmio ar gyfer ffilm ddogfen.
Mae Pentref Pwylaidd Penrhos yng nghanol Gwynedd. Bu’r safle hanesyddol yn ganolfan i’r Llu Awyr, cyn dod yn gartref i filwyr, awyrenwyr, gweithwyr y llynges a dinasyddion o Wlad Pwyl ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Ers hynny, mae’r pentref wedi bod yn rhan bwysig iawn o gymuned Bwylaidd y DU.
Prynwyd y 90 o gartrefi ac ardaloedd cyffredin gan ClwydAlyn, y darparwr tai cymdeithasol o Ogledd Cymru, yn 2020, ac ar hyn o bryd mae’n safle byw’n annibynnol i breswylwyr hŷn.
Yn sgil buddsoddiad sylweddol yn yr adeiladau a’r isadeiledd bydd cartrefi ac asedau cymunedol newydd yn cael eu hadeiladu, a chynhaliwyd seremoni torri’r dywarchen i nodi dechrau’r gwaith. Wrth i newyddion am yr ailddatblygiad fynd ar led yn rhyngwladol, manteisiodd pedwar o fyfyrwyr ffilm ar y cyfle i gofnodi’r newidiadau ym Mhenrhos.
Roedd y myfyrwyr Michał Krzywicki, Jerzy Poniatowski, Kuba Brylski, a Dorian Telniuk wedi rhyfeddu i weld y lleoliad.
Prif gymhelliant y myfyrwyr i astudio’r pwnc oedd eu cysylltiad personol â lluoedd arfog Gwlad Pwyl. Roedd taid Michał yn bartisan gwrth-gomiwnyddol, ac ymladdodd taid Kuba yn Chwyldro Warsaw ac mae’n llywydd Cymdeithas Cyn-filwyr Pwylaidd.
Dywedodd Kuba ei fod wedi derbyn croeso gan y gymuned ym Mhenrhos, ac fe wnaeth eu disgrifio fel, “pobl hynod o dwymgalon, cyfeillgar, a charedig.” Ychwanegodd, “Pleser pur oedd cael treulio bron i bythefnos gyda nhw.”
Esboniodd Kuba: “Yr agwedd fwyaf diddorol am y pentref yw’r hanes amrywiol am sut daeth y trigolion yma. Boed nhw o Gymru, Lloegr, Gwlad Pwyl, neu Wcráin, fe wnaethon nhw ddod yma mewn ffyrdd annisgwyl, a bron yn hudol weithiau.
“Mae’r straeon am sut gwnaethon nhw gyrraedd yma, yn aml dros gyfnod o lawer o flynyddoedd, yn dysgu cenedlaethau iau am eu haberth a’u dewrder, tra’n eu llenwi â gobaith ac ysbryd cadarnhaol. Gyda’i gilydd, fe wnaethon nhw greu cymuned wych sydd wedi’i hamgylchynu gan adeiladau sy’n dwyn i gof stadau maenorol hardd Pwylaidd.”
Wrth i Bentref Pwylaidd Penrhos groesawu’r trawsnewidiad, bydd y ffilm yn gofnod o’r bobl sydd wedi byw yno dros y blynyddoedd a’u naratifau arbennig.
“Mae gan y bobl sydd wedi byw ym Mhenrhos gymaint o straeon personol a safbwyntiau unigryw i’w hadrodd. Mae’r cynhyrchiad ffilm hwn yn ffordd addas iawn o’u hanrhydeddu.”
I gloi, dywedodd Michał: “Mae’n amlwg bod angen i Penrhos newid rhywfaint. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y lle gwych hwn yn parhau am lawer iawn o flynyddoedd ar ffurf newydd sy’n dal i gyfeirio at yr amseroedd gorau, ac y bydd y trigolion newydd yr un mor fodlon â’u bywydau ar y safle hyd yma.”
Mae’r gwaith o ailddatblygu Pentref Pwylaidd Penrhos yn bosibl diolch i fuddsoddiad grant Llywodraeth Cymru, yn dilyn trafodaethau rhwng ClwydAlyn, Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun adfywio, ewch i: Pentref Pwylaidd Penrhos, Gwynedd – ClwydAlyn
