Fe wnaeth y darparwr tai cymdeithasol ClwydAlyn groesawu AS Plaid Cymru Ynys Môn, Llinos Medi, a Chynghorydd Sir Ynys Môn Robin Wyn Williams i seremoni torri’r dywarchen ar ddatblygiad newydd o 54 o gartrefi newydd o ansawdd uchel, effeithlon o ran ynni, yng Nghae Bothan, Ynys Môn.
Gan fod prinder mawr o dai fforddiadwy i’w rhentu, croesawyd y newyddion y bydd ClwydAlyn, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth Cymru, yn adeiladu 54 o gartrefi ar gyrion tref borthladd brysur Caergybi.
Bydd y datblygiad yn cynnwys 20 fflat 1 ystafell wely gyda mynediad personol, 10 tŷ 2 ystafell wely, 12 tŷ 3 ystafell wely, 6 tŷ 4 ystafell wely, 4 bynaglo 2 ystafell wely a dau fyngalo sydd wedi’u haddasu ar gyfer cadeiriau olwyn. Bydd pob eiddo yn cynnwys pympiau gwres ffynhonnell aer, paneli trydan solar, a byddant yn cael eu lleoli i wneud y gorau o wres yr haul a golau naturiol.
Bydd ‘Dulliau Adeiladu Modern’ yn sicrhau bod y broses adeiladu yn defnyddio cynifer o ddefnyddiau naturiol a chynaliadwy â phosibl a gaiff eu darparu gan wneuthurwyr a chyflenwyr lleol gan leihau’r ôl-troed carbon.
Mae’r datblygiad gwerth £10.2 miliwn yn cael ei adeiladu ar ran ClwydAlyn gan y contractwr lleol o Ogledd Cymru K&C Construction, ac mae wedi’i ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru, Grant Tai Cymdeithasol.
“Rydyn ni’n falch iawn o weld y gwaith yn dechrau yn natblygiad Cae Bothan, ac rydyn ni’n rhagweld y bydd y 54 o gartrefi modern o ansawdd uchel wedi’u cwblhau erbyn y gwanwyn 2027.”
"Ein nod yn y tymor hir yw gweithio mewn partneriaeth â’n darparwyr Tai Cymdeithasol Cofrestredig i ddarparu cannoedd o dai newydd fforddiadwy o ansawdd ar yr ynys."
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: Tai ClwydAlyn Gogledd Cymru



