Skip to content

Fel rhan o’r Wythnos Gwirfoddolwyr, roeddem am fwrw golwg ar y gwaith gwirfoddoli gwych y mae staff ClwydAlyn wedi bod yn ei wneud dros y 12 mis diwethaf.

Penderfynodd y ‘Tîm Gwyrdd’, grŵp o staff uchelgeisiol sy’n awyddus i helpu wrth daclo newid hinsawdd, y byddent yn cychwyn ymgyrch lle’r oeddent yn annog staff i lanhau o gwmpas eu hardal leol fel rhan o’u nod i godi ymwybyddiaeth am effeithiau newid hinsawdd.

Fel rhan o’r her hon cymerodd y staff y dasg o lanhau dyfrffyrdd a thraethau, gan gasglu llond bagiau o ysbwriel o eitemau nad oedd neb eu heisiau, gyda choeden Nadolig ymhlith yr eitemau mwyaf anarferol.

“Rydym yn lwcus yma yng Ngogledd Cymru ein bod wedi ein bendithio â rhai traethau rhyfeddol yn ogystal â chefn gwlad trawiadol, ac mae gennym ni i gyd ddyletswydd i ofalu am natur. Mae gennym hefyd staff gwych yn ClwydAlyn, sydd, dros y blynyddoedd wedi ymrwymo eu hamser i wirfoddoli a glanhau ein cymunedau, gan drefnu eu digwyddiadau glanhau eu hunain, a ninnau’n darparu offer a bagiau ysbwriel."

“Mae’r Wythnos Gwirfoddolwyr yn rhoi cyfle i ni gydnabod y cyfraniad gwych y mae Staff ClwydAlyn wedi ei wneud i’n cymunedau yma yng Ngogledd Cymru a dweud diolch i bob un wnaeth gymryd rhan yn un o’n digwyddiadau glanhau.”
Dywedodd Amy Teodorescu
Rheolwr Prosiect Llwybr ClwydAlyn