Canmol Cartref Gofal yn Rhuthun am Gynnig Gofal Ystyriol sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn
Mae adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), wedi canmol Cartref Gofal Llys Marchan yn Rhuthun am ‘agwedd ragweithiol a chreadigol’ y staff gofal, yr adeiladau ‘glân, sydd wedi’u cynnal yn dda’, a’r arweinyddiaeth a rheolaeth ‘ragorol’.