Canmoliaeth i Gartref Nyrsio ym Mae Colwyn am Ddarparu Gofal Cefnogol, Diogel sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn
Mae adroddiad newydd gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi canmol Cartref Gofal Merton, ym Mae Colwyn, am ‘agwedd gefnogol y staff’, y tîm ‘cyfeillgar, siaradus, a hwyliog’ ac am ystyried ‘dymuniadau a dyheadau personol’.