Skip to content

Mae tenantiaid wedi symud i ddatblygiad tai newydd sydd wedi ei adeiladu yn Llangefni yn ddiweddar.

Mae’r datblygiad yn cael ei weld fel un o’r rhai mwyaf blaengar gan ClwydAlyn, mae cyfanswm o 52 o gartrefi newydd yn cael eu datblygu ar safle Maes yr Ysgol, ac mae cyfanswm o 16 cartref yn awr yn barod i bobl symud iddyn nhw.

Cyflawnwyd y prosiect hwn mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ynys Môn a’r contractwyr o’r Bala Williams Homes, gyda mwy na £6.98m wedi ei fuddsoddi gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r datblygiad yn cynnwys cymysgedd o gartrefi sy’n cynnwys cartrefi un, dwy, tair a phedair ystafell wely, gan amrywio o fyngalos, fflatiau, tai pâr a thai unigol.

Cychwynnodd y gwaith ym Mawrth 2021 ac mae’r goriadau yn cael eu trosglwyddo’r wythnos hon i 16 o denantiaid newydd.

Dywedodd Ruth Parry sy’n un o’r tenantiaid sy’n symud i un o’r cartrefi:

“Bydd symud i fy nghartref newydd yn newid llawer ar fy mywyd gan ei fod mor braf, modern a ffasiynol. Roeddwn yn byw mewn tŷ tri llawr sydd wedi ei gondemnio ac yn damp a pheryglus i fyw ynddo, y gwresogi’n wael a’r biliau trydan yn costio £70 i £80 yr wythnos.

“Mae gen i fab anabl sy’n 35 oed ag awtistig, a bydd byw yn fan hyn rŵan a chael cymaint o le yn help mawr iddo. Gyda’r paneli solar a system wresogi iawn hefyd bydd yn arbed arian i ni ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gael byw yma.”

 

Dywedodd Pennaeth Technegol, Arloesedd a Hinsawdd ClwydAlyn, Tom Boome:

“Mae’r cartrefi yma i gyd wedi cael eu hadeiladu gan ddefnyddio technolegau carbon isel gan i’r datblygiad ddefnyddio ffrâm bren sy’n cyfuno dulliau adeiladu modern sy’n creu tai sydd â nodweddion perfformiad thermal gwell ac yn cadw aer i mewn yn well.

“Galluogodd hyn ClwydAlyn i gyflwyno tai fydd yn lleihau’r gwres a gollir, gyda llai o alw am ynni a fydd yn cyfrannu at leihau ein hallyriadau carbon, gyda’r nod hefyd o greu arbediadau blynyddol ar filiau ynni.

“Bydd y cynllun hwn yn chwarae rhan sylweddol wrth leihau ein hôl troed carbon a hefyd yn chwarae rhan allweddol yng ngweledigaeth Amgylcheddol a Chynaliadwyedd ClwydAlyn a’n nod yw ymdrin â heriau newid hinsawdd mewn modd cynaliadwy ac economaidd.”

 

Esboniodd Cyfarwyddwr Masnachol Williams Homes, Tony Hughes:

“Rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â ClwydAlyn i greu tai fforddiadwy y mae angen mawr amdanynt i bobl leol. Mae adeiladu’r cartrefi ffrâm bren gydag ynysiad ffibr pren wedi chwarae rhan wrth greu cyfleoedd gwaith, a thrwy gynllun peilot Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu mae wedi cefnogi troseddwyr yng Ngharchar Ei Mawrhydi Berwyn trwy gynllun mentora sy’n gweld troseddwyr yn cael eu hyfforddi mewn crefftau fel gosod briciau, plastro, gwaith coed a weldio tra byddant yn y carchar i sicrhau eu bod yn gallu symud i swyddi sefydlog wrth gael eu rhyddhau.”

“Mae’n wych gweld y cartrefi yma wedi eu cwblhau yma yn Llangefni. Mae’r adeiladau newydd o safon uchel yma yn rhoi tai y mae eu mawr angen i denantiaid a theuluoedd ac fe hoffwn ddymuno’n dda iddynt yn eu cartrefi newydd.

“Hoffwn ddiolch i bawb a chwaraeodd eu rhan yn y datblygiad hyd yn hyn – mae’n llwyddiant gwych i ni i gyd.”
Ned Michael
Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Tai Cyngor Sir Ynys Môn

Ychwanegodd Tom Boome:

“Rydym yn falch iawn o’r hyn sydd wedi cael ei gyflawni hyd yn hyn ar safle Maes yr Ysgol i ClwydAlyn a’n partneriaid. Nid yn unig mae’n rhan sylweddol o’n rhaglen adeiladu tai, lle’r ydym yn anelu i gyflawni 1500 o gartrefi newydd yng Ngogledd Cymru erbyn 2025; mae hefyd wedi rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnom ni i’n galluogi i fynd ar ôl ein huchelgeisiau gwyrdd a pharhau i adeiladu tai sy’n addas ar gyfer y dyfodol.”