Skip to content

Mae’r preswylwyr wedi symud i mewn i ddatblygiad tai modern, ynni-effeithlon Cae Swch, Llan Ffestiniog, Gwynedd, a gwblhawyd yn ddiweddar. Adeiladwyd y tai gan Wales Timber Solutions (WTS) ar ran y darparwr tai cymdeithasol ClwydAlyn, gyda chyllid grant tai cymdeithasol mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru.

Cartrefi Fforddiadwy i Breswylwyr Lleol

Mae’r preswylwyr newydd wedi symud i mewn i ddatblygiad o 16 cartref ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Adeiladwyd y tai 2, 3 a 4 ystafell wely, sydd wedi costio £3.5 miliwn i’w cwblhau, gan y contractwr lleol Wales Timber Solutions (WTS), gyda chyllid grant tai cymdeithasol.

Cost-effeithiol ac Ynni-effeithlon

Cafodd yr 16 o gartrefi newydd yng Ngae Swch eu dylunio gan roi sylw i effeithlonrwydd ynni, gyda’r nod o gadw biliau yn isel i’r preswylwyr. Defnyddiwyd technolegau gwyrddach, gan gynnwys pympiau gwres ffynhonnell aer a phaneli trydan solar i sicrhau bod y cartrefi yn gost-effeithiol i’w rhedeg ac yn cefnogi’r amgylchedd.

  • Pympiau gwres ffynhonnell aer
  • Paneli trydan solar
  • Lleoliad sy’n gwneud y mwyaf o wres yr haul a golau naturiol
  • Cyfleusterau gwefru cerbyd trydan

Cartrefi Modern, Diogel, Cynnes

Defnyddiwyd ‘Dulliau Adeiladu Modern’ i godi’r cartrefi, ac maent yn cynnwys cynifer o ddefnyddiau naturiol a chynaliadwy â phosibl. Yn ogystal â hyn, daeth cynifer â phosibl o’r defnyddiau o wneuthurwyr a chyflenwyr lleol, gan gadw ôl-troed carbon y gwaith adeiladu yn isel.

Croesawu Preswylwyr Newydd

Mae pob cartref newydd yn natblygiad Cae Swch yn bodloni ac yn rhagori ar y safonau rheoleiddio presennol gan gynnwys Safon Ansawdd Tai Cymru, Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru a Safonau Cartrefi Gydol Oes Llywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am y datblygiad hwn a datblygiadau eraill ClwydAlyn ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru, ewch i: https://www.clwydalyn.co.uk/cy/our-developments/

“Mae gwir angen y cartrefi hyn yng Ngwynedd ac rydyn ni’n falch dros ben o groesawu 14 o deuluoedd i’r cartrefi newydd, diogel a modern, sy’n effeithlon o ran ynni.
“Mae ein Swyddog Tai cyfeillgar yn ddwyieithog felly gall pob un o breswylwyr newydd Cae Swch dderbyn cymorth yn yr iaith o’u dewis.”
Helen Williams
Rheolwr Prosiectau Datblygu ClwydAlyn
“Rwyf yn falch iawn o weld preswylwyr newydd Cae Swch yn derbyn y goriadau i’w cartrefi o ansawdd uchel gyda ClwydAlyn. Mae’n garreg filltir bwysig iawn i’r datblygiad, ac yn dod â thai cymdeithasol y mae galw mawr amdanyn nhw i Lan Ffestiniog.
“Daw hyn ar amser hollbwysig. Ar hyn o bryd mae bron i 4,500 o bobl ar y rhestr aros am dai cymdeithasol yng Ngwynedd ac un o flaenoriaethau’r Cyngor yw mynd i’r afael â’r galw hwn wrth i ni weithio i sicrhau y gall pobl leol gael mynediad at gartrefi addas, fforddiadwy, o ansawdd yn eu cymunedau.
"Rydyn ni’n gweithio’n galed i fynd i’r afael â’r argyfwng tai sy’n dal i gael effaith ddifrifol ar ein cymunedau, a thrwy weithio’n agos mewn partneriaeth â chymdeithasau tai fel ClwydAlyn gallwn ddarparu’r cartrefi modern, cynaliadwy ac effeithlon o ran ynni y mae dirfawr eu hangen ar bobl Gwynedd.”
Cynghorydd Paul Rowlinson
Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd