Skip to content

Mae Cymdeithas Dai’r Pwyliaid a Safle Cartref y Pwyliaid yng Ngogledd Cymru wedi trosglwyddo i ClwydAlyn fel rhan o drefniant cyfuno.

Trwy’r trosglwyddiad, sy’n dilyn proses ymgynghori gyda staff a phreswylwyr, bydd ClwydAlyn yn cymryd y gwaith o redeg safle Penrhos, cyn-wersyll RAF 20 erw a drawsnewidiwyd ar ôl yr Ail Ryfel Byd yn bentref i gyn-filwyr Pwylaidd hŷn.

Mae’r gymdeithas dai o Ogledd Cymru, sy’n berchen ar dros 6,000 o gartrefi ac yn arbenigo ar wasanaethau i bobl hŷn a’r digartref ynghyd â thai cymdeithasol traddodiadol; yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd, y Bwrdd Iechyd a Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynlluniau ar gyfer cartrefi newydd, o safon uchel ar y safle.

Fel rhan o’r cynllun hwn, bydd ClwydAlyn hefyd yn datblygu dadl fusnes dros gartref gofal newydd, yn dilyn y cyhoeddiad gan PHS yn gynharach eleni am gau’r cartref gofal presennol ar ôl cyfnod hir o heriau ariannol a rheoleiddiol.

Dywedodd Clare Budden, Prif Weithredwraig ClwydAlyn: “Mae’r trosglwyddiad heddiw yn dilyn gweithio cadarn mewn partneriaeth rhwng Bwrdd PHS, ClwydAlyn, Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru i archwilio dewisiadau i sicrhau dyfodol tymor hir Penrhos, ar ôl cyfnod maith o ansicrwydd.

“Rydym wedi bod yn gweithio’n glos gyda staff a phreswylwyr dros yr ychydig fisoedd diwethaf i’n helpu i ddeall anghenion y preswylwyr fel ein bod yn gallu siapio gwasanaethau gofal a chefnogi yn y dyfodol a datblygu cartrefi newydd o ansawdd a fydd yn cadw treftadaeth Bwylaidd falch Penrhos.”