Mae ClwydAlyn, darparwr tai cymdeithasol a fforddiadwy ledled Gogledd Cymru, wedi penodi tri aelod newydd o’r bwrdd. Bydd penodiadau strategol Emily Owen, Kevin Howell a Chris Mather yn cefnogi amcan corfforaethol craidd y sefydliad, sef rhoi diwedd ar dlodi ledled Gogledd Cymru.
Penodwyd y tri aelod newydd i gryfhau pwyslais ClwydAlyn ar y cysylltiad sylfaenol rhwng tai da, fforddiadwy a llesiant cyffredinol. Fel darparwr dros 6,800 o gartrefi diogel, hirdymor, o ansawdd ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru, lansiodd y sefydliad gynllun corfforaethol uchelgeisiol newydd yn 2025. Dewiswyd tri aelod newydd y bwrdd ar sail eu harbenigedd helaeth o’r sector tai, eu hangerdd dros gryfhau cymunedau a’u hymrwymiad i gydraddoldeb, gan helpu i gyflymu amcanion ClwydAlyn i atal digartrefedd, sicrhau bod gan bawb fynediad at dai cynnes o ansawdd gwych, a gweithio gyda phartneriaid i wella mynediad at fwyd fforddiadwy, maethlon.
Mae Emily Owen wedi treulio ei gyrfa yn gweithio i wella gwasanaethau cyhoeddus a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb. Fel Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a’r Aelod Cabinet dros Dai, Digartrefedd a Thrawsnewid Gwasanaethau, arweiniodd newidiadau yn y gwasanaethau tai a digartrefedd, gan grynhau gwaith ataliol a rhoi lle canolog i brofiadau preswylwyr wrth wneud penderfyniadau. Mae Emily bellach yn rhedeg ei hymgynghoriaeth ei hun, ac yn cefnogi sefydliadau ym mhob rhan o Gymru gyda’u strategaeth, polisi, partneriaethau a materion cyhoeddus, gyda phwyslais penodol ar dai ac iechyd.
Mae gan Kevin Howell dros 20 mlynedd o brofiad ym maes tai, gwasanaethau cymunedol ac arweinyddiaeth sefydliadol ledled Cymru. Mae wedi dal uwch swyddi, gan gynnwys Cyfarwyddwr Gwasanaethau Tai Codi Group, a Chyfarwyddwr Cenedlaethol Sefydliad Siartredig Tai Cymru. Gan gynnig arbenigedd cynhwysfawr ym maes gwasanaethau tai, llywodraethu, trawsnewid, profiad y cwsmer a gwelliant sefydliadol, mae Howell yn angerddol dros gryfhau cymunedau a sicrhau bod sefydliadau’n darparu canlyniadau ystyrlon i’w rhanddeiliaid.
Mae gan Chris Mather dros 30 mlynedd o brofiad yn y sector tai cymdeithasol, gyda phwyslais ar ddatblygu, rheoli asedau ac arweinyddiaeth fasnachol. Ar hyn o bryd mae’n Gyfarwyddwr Datblygu gyda ForHousing ac mae wedi dal uwch swyddi yn Plus Dane Housing yn y gorffennol. Bydd ei arbenigedd a’i ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn cynnig mewnwelediad gwerthfawr a chyfeiriad strategol i’r Bwrdd.
Mae Cris McGuinness, Cadeirydd Bwrdd ClwydAlyn ers tair blynedd, yn estyn croeso cynnes i’r aelodau newydd, a dywedodd: “Ar adeg pan mae llawer o bobl ledled Gogledd Cymru yn wynebu heriau gwirioneddol yn ymwneud â chostau byw a chael mynediad at dai fforddiadwy, mae’n bwysig ein bod ni’n dal i ganolbwyntio ar ddarparu cartrefi cynnes, diogel, o ansawdd uchel ar lefelau rhent y gall pobl eu fforddio.
“Rydym yn falch dros ben o groesawu’r tri aelod newydd i’r Bwrdd, bydd eu cyfoeth o brofiad, mewnwelediad ac arweinyddiaeth yn atgyfnerthu ein gallu i gefnogi cymunedau lleol a helpu pobl i gael mynediad at y cartrefi mae eu hangen arnynt.”
I gael rhagor o wybodaeth am Fwrdd ClwydAlyn, ewch i: Cyfarfod y Tîm – Clwydalyn