Skip to content

Cododd twrnament pêl-droed chwech bob ochr a drefnwyd gan bwyllgor Chwaraeon a Chymdeithasol ClwydAlyn £1,500 trawiadol at hosbis leol, Sant Cyndeyrn, sy’n rhoi gofal diwedd oes a gofal lliniarol preswyl.

Aeth deunaw tîm o chwech ar y cae yng Nghanolfan Hamdden Llanelwy ar ddydd Sul 27 Gorffennaf, am ddiwrnod o gystadlu cyfeillgar, ysbryd cymunedol a chodi arian, i gefnogi Hosbis Sant Cyndeyrn. Cynlluniwyd y digwyddiad gan y cydweithwyr Martin Halewood ac Annie Jackson, sydd, ill dau, yn aelodau o bwyllgor chwaraeon a chymdeithasol ClwydAlyn. Roedd y timau yn cynnwys aelodau o amrywiaeth o sefydliadau a busnesau lleol; ClwydAlyn, Cartrefi Conwy, Greenthumb, Roger W Jones, Samco, Independent Solutions, Nwy Prydain, ParkCity, Blue Turtle Group, Onnen, Caednant Planning, Creating Enterprise a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. A thimau annibynnol; Rhyl XI, Llan Veterans a Dyffryn Conwy Amateurs a Baz FC.  Chwaraewyd 52 o gemau, gyda’r cyfanswm trawiadol o 77 o goliau wedi eu sgorio (heb gynnwys ciciau o’r smotyn)!

Fe wnaeth y trefnwyr hefyd drefnu raffl a chystadleuaeth ‘Dyfalu Sawl Gôl’, gyda’r arian yn mynd tuag at y targed codi arian. Llwyddwyd i godi’r cyfanswm trawiadol o dros £1,500 ar y diwrnod, ac mae’r cyfraniadau’n dal i gyrraedd.

Mae’r twrnament yn rhan o ymgyrch godi arian ehangach. Yn gynharach eleni cyhoeddodd ClwydAlyn bod y staff wedi dewis Sant Cyndeyrn fel eu ‘Helusen y Flwyddyn’.

“Rydym yn hynod falch o gefnogi’r hosbis leol hanfodol hon. Roedd y twrnament yn ddiwrnod gwych, ac roedd y ffaith ein bod wedi codi dros £1,500 at Sant Cyndeyrn yn ei wneud yn fwy arbennig fyth.
“Hoffwn ddiolch i bawb o’n cymuned, a ddaeth yno a gwneud y digwyddiad yn llwyddiant anferth. Ac i Alwyn o Sant Cyndeyrn a gyflwynodd y medalau i’r timau buddugol!”
Martin Halewood
Cyd-drefnydd y twrnament, ClwydAlyn
“Ar ran pawb yn yr hosbis, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i ClwydAlyn, am drefnu digwyddiad mor wych. Hefyd, diolch i’r holl dimau a gymerodd ran a llongyfarchiadau i’r enillwyr Baggers Belief! Rydym yn gwirioneddol werthfawrogi popeth y mae ClwydAlyn yn ei wneud i gefnogi’r hosbis ac am ein dewis fel Elusen y Flwyddyn. Ni allaf bwysleisio digon pa mor bwysig yw hi fod gennym gefnogaeth busnesau lleol, i’n galluogi i barhau i gefnogi’r cleifion a’r teuluoedd dan ein gofal.”
Alwyn Mason
Codwr Arian Corfforaethol Sant Cyndeyrn
“Roedd ennill y twrnament yn deimlad gwych ond roedd gweld pawb yn mwynhau’r diwrnod ac yn cael hwyl yn ffantastig! Roedd yn ddiwrnod gwych ac yn achos gwych; rydym yn falch o fod wedi bod yn rhan ohono.”
Anthony ‘Toesy’ Colquitt
Baggers Belief

Llongyfarchiadau i’r tîm buddugol yn y twrnament, Baggers Belief ac i’r rhai ddaeth yn ail, Llan Veterans.

Diolch hefyd i noddwyr y digwyddiad, K&C Construction ac i’r tri dyfarnwr, Glyn, Graham a Tom.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am Hosbis Sant Cyndeyrn, a’r gwasanaethau a gynigir, ewch i: Hafan – Hosbis Sant Cyndeyrn

Er mwyn cael gwybod rhagor am Gymdeithas Tai ClwydAlyn, ewch i: www.clwydalyn.co.uk