Skip to content

Mae cynllun preswyl newydd yn y Rhyl sy’n cefnogi rhieni digartref i roi blaenoriaeth i’w iechyd a llesiant eu hunain a’u plant, wedi cynnal diwrnod agored prysur.

Mae Seren Bach, yn Bruton Park ger y Rhyl, yn Uned Rhiant a Babi preswyl arbenigol sy’n cynnig cyfle i rieni digartref fyw mewn amgylchedd cefnogol ynghyd â’u plant, nes byddant yn ddwy oed.

Mae’r uned, sy’n cynnwys pump o fflatiau preswyl, ardaloedd cymunedol a gardd fawr, yn cael ei staffio’n llawn 24 awr y dydd, i greu pump o gartrefi hollol gefnogol. Gall y preswylwyr fanteisio ar gefnogaeth, cyngor ac addysg am rianta, sgiliau bywyd gan gynnwys coginio a llunio cyllideb, mynediad at ofal iechyd a gwasanaethau hanfodol lleol eraill.

Wedi ei gomisiynu gan Grant Cymorth Tai ar ran Cyngor Sir Ddinbych, wedi ei ddatblygu a’i hwyluso gan y gymdeithas dai, ClwydAlyn; mae Seren Bach yn gyfleuster y mae gwirioneddol ei angen, sydd eisoes yn profi ei werth yn y gymuned leol.

“Ers agor ym mis Ebrill, rydym wedi llenwi’r pump fflat yma’n Seren Bach yn gyflym iawn.
“Roeddem yn falch iawn o gefnogi’r fam newydd, Shakea, a groesawodd ei mab dri mis yn ôl. Ac rydym eisoes wedi sefydlu cymuned eithriadol o gryf a chefnogol, sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau ein preswylwyr.
“Mae’n glod i’n tîm ymroddedig ac ymdrech y preswylwyr sy’n byw yma bod Seren Bach mor llwyddiannus.”
Lisa Osbourne
arweinydd tîm yn ClwydAlyn
“Fe symudais i yma pan oeddwn yn feichiog ers 30 wythnos ac rwyf yn ei hoffi’n fawr. Os oes arnoch angen unrhyw gymorth, rydych yn gallu gofyn – mae pawb yn wirioneddol gefnogol.
“Mae pawb sy’n byw yma yn wirioneddol neis ac mae mor braf cael eich cartref eich hun.”
Shakea
Fam newydd
“Roedd hi’n wirioneddol hyfryd gweld y dinasyddion yn ffynnu ac yn defnyddio’r holl gefnogaeth sy’n cael ei darparu. Roedd yn amlwg faint o ymroddiad oedd wedi mynd i greu amgylchedd mor groesawus a chynhwysol.
“Roedd y balchder ymhlith y staff wrth arddangos y prosiect yn drawiadol ac yn haeddiannol ac roedd yn hyfryd eu clywed yn siarad mor falch am yr holl waith sy’n digwydd a gweld y dinasyddion a’r plant yn datblygu.
“Hoffem ddiolch i’r tîm yn Seren Bach am eu gwaith caled, eu creadigrwydd a’u hymroddiad. Teimlodd pawb oedd yn bresennol effaith eu hymdrechion.”
Samantha Evans
Swyddog Llwybr a Phrosiect Grant Cymorth Tai o Gyngor Sir Ddinbych

Aeth Prif Weithredwraig ClwydAlyn, Clare Budden a’r Cyfarwyddwr Gweithredol Gofal a Chefnogaeth, Ed Hughes ill dau i’r digwyddiad, i sgwrsio gyda phreswylwyr a staff.

Fel rhan o’r diwrnod agored, croesawyd yr ymwelwyr i farbeciw a chawsant y cyfle i fynd ar daith o gwmpas un o’r cartrefi, yn ogystal ag ardaloedd cymunedol yr uned. Bydd y cyfleuster, yr oedd angen mawr amdano, yn rhoi cefnogaeth i rieni am gyn hired ag y mae ei angen, nes y byddant yn barod i symud i fyw’n annibynnol.

Dyma’r unig gyfleuster o’i fath yn ardal Sir Ddinbych ac mae ClwydAlyn a Chyngor Sir Ddinbych yn hyderus y bydd y preswylwyr yn cael cynnig cychwyn rhagorol ar eu taith i fod yn rhiant, diolch i’r cyfleusterau a’r staff profiadol.

Gellir cael cyfeiriad i Seren Bach trwy Dîm Llwybr Cefnogi Pobl Cyngor Sir Ddinbych hppathway@denbighshire.gov.uk yn uniongyrchol neu trwy asiantaeth, gweithiwr cymdeithasol neu weithiwr iechyd.

Er mwyn cael gwybod rhagor am wasanaethau byw â chefnogaeth ClwydAlyn, ewch i: Byw â Chefnogaeth – Clwydalyn