Skip to content

Mae Tai ClwydAlyn a Chyngor Sir Powys yn gweithio ar ddarparu cynllun gofal ychwanegol arloesol ar hen safle swyddfeydd y cyngor yng nghanol tref y Trallwng.

Bydd y datblygiad gofal ychwanegol ‘Neuadd Maldwyn’, ar Ffordd Hafren, yn cynnwys 66 o fflatiau un a dwy ystafell wely. Bydd y cynllun yn cynnig cyfle i fyw’n annibynnol gyda gofal a chefnogaeth, gan gau bwlch o ran tai i bobl hŷn yn yr ardal. Bydd preswylwyr lleol Powys yn cael blaenoriaeth i’r fflatiau newydd pan gânt eu gorffen yn 2023.

Bydd y gwaith yn dechrau ar y safle yn Awst 2021, gan ddechrau clirio’r safle a chreu llwybrau mynediad newydd. Bydd yr adeilad Neuadd Maldwyn hanesyddol yn cael ei adfer a’i ymestyn mewn modd cydnaws fel rhan o’r rhaglen ddatblygu, gan gynnig cyfoeth o wasanaethau ar y safle a darpariaethau i’w defnyddio gan breswylwyr a’r gymuned leol.

Mae’r cynllun yn rhan o raglen ddatblygu ClwydAlyn i ddarparu 1500 o gartrefi newydd yng Ngogledd Cymru erbyn 2025 am fuddsoddiad o £250m gan ddod â chyfanswm y tai y maent yn eu rheoli i dros 7,500.

Bydd trawsnewid yr adeilad hanesyddol yma yn llety gofal ychwanegol newydd o safon uchel yn ymdrin ag angen allweddol am dai fforddiadwy i bobl hŷn yn yr ardal leol.

“Rydym yn falch iawn o gael gweithio mewn partneriaeth ag Anwyl Partnerships a Chyngor Powys i’r cynllun ddwyn ffrwyth a chreu canolfan newydd fywiog yn y gymuned, yn ogystal â rhoi hwb i gyflogaeth yn lleol.”
Craig Sparrow
Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu ClwydAlyn

Bydd Anwyl Partnerships yn gwneud y gwaith adeiladu ar y safle, gan ddefnyddio eu profiad eang yn y sector gofal ychwanegol.

Esboniodd Mike Nevitt, Rheolwr Gyfarwyddwr Anwyl Partnerships: “Mae hwn yn safle gwych ac yn adeilad rhyfeddol a fydd yn cael ei ail-ddatblygu i greu cartrefi newydd i bobl leol.

“Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â ClwydAlyn a Chyngor Sir Powys i sicrhau bod anghenion y gymuned leol yn cael eu bodloni yn ogystal â rhanddeiliaid eraill. Nid yn unig bydd y cynllun yn cynnig dewis preswyl unigryw i bobl hŷn, ond hefyd yn rhoi bywyd newydd i’r adeilad gwych yma. Bydd datblygu’r cynllun hefyd yn creu cyfleoedd gwaith i bobl leol trwom ni fel rhan o’r gwaith adeiladu, yn ogystal â llu o swyddi ychwanegol pan fydd wedi ei gwblhau ac yn weithredol.

“Mae’r gymuned yn ganolog i’r datblygiad hwn ac edrychwn ymlaen at greu cysylltiadau ag aelodau o’r gymuned leol o’r dechrau, ar ôl dechrau ein cylchlythyr chwarterol cyntaf.”

Dywedodd y Cynghorydd Myfanwy Alexander, Aelod y Cabinet â chyfrifoldeb am Ofal Cymdeithasol Oedolion i Gyngor Sir Powys: “Mae hon yn garreg filltir bwysig i’r prosiect trawiadol hwn a fydd yn gwneud cyfraniad mawr at fywyd y dref, gan greu swyddogaeth newydd i’r adeilad eiconig hwn yn ogystal â chynnig cartrefi i bobl hŷn yr ardal.”

Os ydych chi’n 60 oed neu hŷn, ac yn teimlo y byddech yn cael budd o Gynllun Gofal Ychwanegol Neuadd Maldwyn, gallwch gysylltu â ni yn y ffyrdd canlynol:

Rhadffôn: 0800 183 5757
Ebost: help@clwydalyn.co.uk

www.clwydalyn.co.uk/neuadd-maldwyn