Skip to content

Mae pennod newydd yn dechrau yn Llandudno wrth i ClwydAlyn gadarnhau bod 21 o’r 77 o gartrefi newydd yn Builder Street yn barod i gael eu trosglwyddo i breswylwyr lleol; dyma’r nifer mwyaf o dai newydd i gael eu codi yng nghanol y dref ers sawl blwyddyn.

I’r bobl a fydd yn symud i fyw yma, mae’r tai hyn yn golygu llawer mwy na brics a mortar. Byddant yn cynnig cartref diogel, cynnes a fforddiadwy, ac yn creu sylfeini cadarn er mwyn i bobl adeiladu eu bywydau ac edrych ymlaen i’r dyfodol yn hyderus.

Mae’r cartrefi newydd hyn, a ddarperir gan ClwydAlyn mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, K&C Construction a Llywodraeth Cymru, yn cynnig tai fforddiadwy y mae galw mawr amdanynt, ac i lawer o breswylwyr bydd y gyfle i gael dechrau newydd.

Mae byw yng nghanol y dref yn gallu golygu bod yn fwy agos at waith, addysg, siopau, trafnidiaeth gyhoeddus, teulu, ffrindiau a chyfleusterau cymunedol. Bydd y datblygiad hwn yn darparu 100% o gartrefi fforddiadwy i bobl leol, mewn ardal lle mae arbenigwyr annibynnol wedi nodi bod prinder ohonynt.

Yn ystod y bore agored, bu cynghorwyr lleol, arweinwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Maer Llandudno yn ymweld â’r safle a’r cartrefi newydd, gan weld y cynnydd a wnaed ar y safle a chyfarfod tîm datblygu ClwydAlyn.

Glyn Griffiths was born on 7th December 1917 in Llandudno and attended John Bright County School. He shot down 15 enemy planes in the Battle of Britain. Find out more here: Battle of Britain London Monument - Sgt. G Griffiths
Glyn Griffiths was born on 7th December 1917 in Llandudno and attended John Bright County School. He shot down 15 enemy planes in the Battle of Britain. Find out more here: Battle of Britain London Monument – Sgt. G Griffiths

Dathlu Arwr Rhyfel Lleol

Mae un o’r ffyrdd ar y datblygiad newydd, Clos Glyn Griffiths, wedi cael ei henwi ar ôl sarsiant a pheilot ifanc, ac arwr yr Ail Ryfel Byd, sef Glyn Griffiths o Landudno. Pan oedd yn 24 oed cyflwynwyd y Fedal Nodedig am Hedfan iddo i gydnabod ei wasanaeth dewr yn hedfan awyrennau Hawker Hurricanes yn Sgwadron rhif 17 yn ystod Brwydr Prydain yn 1940. Y Cynghorydd Angela O’ Grady awgrymodd y dylid enwi’r stryd ar ei ôl.

Dywedodd y Cynghorydd O’Grady: “Roedd yn braf iawn gweld y Sarsiant Glyn Griffiths yn cael ei gofio ar un o’r arwyddion ffordd. Doeddwn i ddim yn meddwl y byddai hyn yn digwydd ac mae’n beth arbennig iawn gallu cerdded heibio’r arwydd bron iawn bob dydd gan wybod y bydd yr aelod ifanc hwn o’r lluoedd arfau yn cael ei gofio am byth yn ei dref enedigol.”

Cartrefi i Breswylwyr Lleol

Dywedodd Penny Storr, Pennaeth Datblygu a Thwf ClwydAlyn

“Mae’r cartrefi hyn mor bwysig i Landudno. Rydyn ni’n falch iawn y bydd pobl yn symud i mewn yn fuan.

Bydd gan breswylwyr newydd Builder Street eu cartrefi eu hunain ac yn gallu bwrw gwreiddiau yn y gymuned. Mae’r datblygiad yn arwyddocaol gan ei fod yn darparu tai fforddiadwy y mae galw mawr amdanynt, yn ogystal â chynnig cyfleoedd cyffrous i’r dref.

Bydd teuluoedd yn dechrau symud i’r tai yn ystod y mis, ac mae disgwyl i’r fflatiau gael eu cwblhau ym mis Medi. Rydyn ni’n dymuno’r gorau i holl breswylwyr newydd Builder Street yn eu cartrefi newydd!”

Penny Storr
Pennaeth Datblygu a Thwf ClwydAlyn
Rwy’n falch iawn o weld bod y cartrefi hyn yn barod i groesawu preswylwyr newydd. Mae’n braf iawn ein bod wedi gallu gweithio gyda’n gilydd i gefnogi uchelgeisiau Strategaeth Tai a Digartrefedd Conwy trwy ddarparu tai fforddiadwy o ansawdd uchel mewn lleoliad cyfleus sy’n agos i gyfleusterau canol y dref. Bydd y datblygiad hwn yn creu mwy o gyfleoedd i bobl leol gael mynediad at dai fforddiadwy ac yn helpu i ateb y galw am dai sydd wedi’i nodi ym mhob rhan o Sir Conwy.
Cynghorydd Stephen Price
Aelod Cabinet dros Dai, Rheoleiddio ac Archwilio

Mae 56 o fflatiau ar y safle ac, ar ôl eu cwblhau, bydd 24 o’r rhain yn cael eu dynodi i bobl dros 55 oed.

Bydd y cartrefi newydd hyn yn bodloni ac yn rhagori ar y safonau rheoleiddio presennol: Safon Ansawdd Tai Llywodraeth Cymru, Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru a Safonau Mannau a Chartrefi Prydferth Llywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am y datblygiad, ewch i: Cartrefi Newydd i Deuluoedd yn Builder Street, Llandudno – Clwydalyn