Skip to content
77 Cartrefi
Builder Street, Llandudno, Conwy, LL30 2AF
Ar y gweill

Cwblhau: Gaeaf 2025

Datblygiad o 77, o gartrefi o safon uchel, effeithlon o ran ynni a fydd yn cynnwys cartrefi un, dwy, tair a phedair ystafell wely i deuluoedd a rhai dros 55 oed. Adeiladir ein holl gartrefi fel cartrefi am oes ac maent wedi eu dylunio i fod yn hawdd eu haddasu yn ôl anghenion y preswylwyr wrth iddynt newid, gan eu helpu i fyw’n annibynnol yn hwy.

Bydd y datblygiad hwn yn darparu 100% o dai fforddiadwy i bobl leol, mewn ardal lle mae diffyg wedi ei ddynodi yn annibynnol. Gan ddwyn dros £12.7 miliwn o fuddsoddiad lleol i mewn, ac yn cefnogi dros 100 o gyfleoedd am swyddi yn yr ardal.

Mae’r cartrefi newydd yn bodloni ac yn mynd tu hwnt i’r safonau rheoleiddiol presennol: Safon Ansawdd Tai Cymru Llywodraeth Cymru, Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru a safonau Tai a Lleoedd Hardd Llywodraeth Cymru.

Nod ClwydAlyn yw taclo tlodi tanwydd a helpu i leihau’r effaith y gall cartrefi llai effeithlon o ran ynni ei gael ar iechyd a lles pobl. Wedi eu hadeiladu gan ddefnyddio technolegau mwy gwyrdd a dyluniadau blaengar, mae’r cartrefi

· Pympiau gwres ffynhonnell aer
· Paneli trydan solar
· Batris storio trydan solar
· Cartrefi wedi eu gosod i wneud y mwyaf o’r haul a golau naturiol
· Cyfleusterau gwefru ceir trydan
· ‘Dulliau Adeiladu Modern’, gan ddefnyddio cymaint o ddeunyddiau naturiol a chynaliadwy ag sy’n bosibl
· Canfod deunyddiau gan weithgynhyrchwyr a chyflenwyr lleol, gan gadw’r ôl troed carbon yn isel.

Gall y cartrefi yma wneud gwahaniaeth mawr. Byddant yn helpu preswylwyr i gefnogi’r amgylchedd; arbed ynni gwerthfawr ac fe allant arbed arian yn y pen draw hefyd.

Mae 77 o gartrefi ar y safle

  • 26 x Fflat 1 Ystafell Welyt
  • 30 x Fflat 2 Ystafell Wely
  • 10 x Cartref 2 Ystafell Wely
  • 10 x Cartref 3 Ystafell Wely
  • 1 x Cartref 4 ystafell wely

Manteision y cartrefi


Effeithlon o ran ynni
Wedi eu hadeiladu i’r safonau uchaf o ran effeithlonrwydd ynni, gan ddefnyddio’r technolegau a deunyddiau diweddaraf, i sicrhau bod eich cartref yn gost effeithiol i’w redeg.
Cefnogaeth gyfeillgar
Cefnogaeth gyfeillgar gan eich Swyddog Tai penodol.
Rheoli eich tenantiaeth ar-lein
Mae FyClwydAlyn yn wasanaeth ar-lein am ddim, diogel i reoli eich tenantiaeth unrhyw le, unrhyw bryd.

Y newyddion diweddaraf am y datblygiad:

ClwydAlyn yn cyhoeddi y bydd y gwaith o ddatblygu Cynllun Tai Fforddiadwy yn Llandudno yn ailddechrau
Mae ClwydAlyn, y Gymdeithas Tai o Ogledd Cymru, wedi cyhoeddi y bydd y gwaith o ddatblygu’r cynllun tai fforddiadwy newydd yn Builder Street, Llandudno, yn ailddechrau.
Darllenwch fwy
Gwaith ar fin dechrau ar Builder Street
Mae Tai ClwydAlyn yn mynd i ddarparu tai fforddiadwy 100% ar rent yn Llandudno a fydd yn cynnig cymysgedd o gartrefi i deuluoedd yn ogystal ag i rai dros 55 oed.
Darllenwch fwy
Golau gwyrdd i gynllun tai fforddiadwy yn Llandudno.
Ddoe, cymeradwywyd caniatâd cynllunio gan Gyngor Sir Conwy ar gyfer datblygu tai fforddiadwy yn Llandudno.
Darllenwch fwy
 Land at Builder Street, Llandudno artists impresison

Am gael byw yma?

Er mwyn ymgeisio i fyw yn Builder Street, bydd angen i chi ymgeisio trwy Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Dilynwch y ddolen isod i ymgeisio.
Ymgeisiwch Rŵan