Mae disgyblion Ysgol Gymuned Llanfechell yn mwynhau cyfleoedd newydd i ddysgu yn yr awyr agored a threulio amser yn creu gwelyau plannu, diolch i brosiect cymunedol a ddarparwyd gan y contractwr DU Construction a’r darparwr tai cymdeithasol, ClwydAlyn.
Mae’r ysgol wedi elwa ar welyau plannu uchel a meinciau newydd, fel rhan o brosiect cymunedol parhaus sy’n rhan o’r datblygiad tai newydd gerllaw.
Bydd y gwelyau plannu yn rhoi cyfle i’r disgyblion archwilio’r byd naturiol ac ystyried effaith gadarnhaol treulio amser yn yr awyr agored yn ogystal â dysgu am dyfu blodau a bwyd. Bydd y meinciau a’r byrddau picnic yn rhoi lle iddynt gymdeithasu a dod i adnabod ei gilydd.
Derbyniodd yr ysgol gymorth i ad-leoli gwelyau tyfu, gwneud gwaith cynnal cyffredinol y tu allan, gosod seddau allanol ychwanegol a ‘mainc mêts’ i helpu plant i ryngweithio’n gymdeithasol.
“Mae lleoliadau awyr agored yn hollbwysig i gefnogi llesiant ac yn helpu i ddarparu cyfleoedd i ddysgu yn yr awyr agored, ac rydyn ni wrth ein bodd i weld bod yr ardaloedd newydd eisoes yn cael eu defnyddio!”
Mae’r prosiectau budd cymunedol hyn yn dangos ymrwymiad ClwydAlyn a DU Construction i fuddsoddi yn y gymuned leol a llesiant pawb sy’n byw yno. I gael rhagor o wybodaeth am ddatblygiad Llanfechell, oddi ar Ffordd y Mynydd, ewch i: Llanfechell, Ynys Môn – Clwydalyn