Skip to content

I unigolion a phlant sy’n profi cam-drin domestig

Mae Cymorth i Ferched ClwydAlyn yn wasanaeth cam-drin domestig arbenigol sy’n darparu cymorth cyfrinachol yn seiliedig ar drawma i unigolion a’u plant sydd wedi wynebu cam-drin domestig.

Gan weithredu fel rhan o wasanaethau byw â chymorth ClwydAlyn, mae Cymorth i Ferched ClwydAlyn yn cyfuno llety diogel â chymorth emosiynol ac ymarferol i helpu goroeswyr i symud o sefyllfa o argyfwng i adferiad ac annibyniaeth fwy hirdymor. Mae’r gwasanaeth yn ymateb i anghenion, dymuniadau a dewisiadau unigolion, gan hybu gobaith, caredigrwydd ac ymddiriedaeth a chefnogi pobl agored i niwed yn ein cymunedau.

 

Yr hyn yr ydym yn ei wneud

  • Darpariaeth llochesi
  • Mynediad at ein cymorth iechyd meddwl a chwnsela arbenigol.
  • Swyddog arbenigol iechyd meddwl cam-drin domestig
  • Gwasanaethau i blant a phobl ifanc
  • Ymyriadau mewn argyfwng
  • Allgymorth a chymorth yn ôl yr angen
  • Darpariaeth llochesi/tai diogel cyffredin a hunangynhwysol
  • Rhaglenni adferiad: Rhaglen Freedom, STAR, Own My Life, DART, Space a Hope2recovery
  • Gwasanaeth galw heibio
  • Gwasanaeth cyfeirio at gynghorwyr cyfreithiol arbenigol
  • Gwybodaeth am dai a budd-daliadau
  • Gwasanaeth brys tu allan i oriau ar alwad, sydd ar gael 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn drwy ein sefydliad ymbarél Cymorth i Ferched Cymru.

Sut i gael gafael ar ein gwasanaethau:

Cymorth i Ferched ClwydAlyn

Llinell Gymorth Am Ddim Byw’n Ddi-ofn: