Cyhoeddodd un o Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig mwyaf Gogledd Cymru ei Adroddiad Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu newydd ar gyfer 2025-2026. Mae’r adroddiad yn cynnig darlun clir o welliannau perfformiad allweddol y sefydliad.
Mae ClwydAlyn yn landlord cymdeithasol gyda phencadlys yn Llanelwy, ac mae’n darparu tua 6,800 o gartrefi cynnes a diogel ar draws saith sir yng ngogledd a chanolbarth Cymru. Mae adroddiad Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu newydd y sefydliad yn dangos cynnydd mesuradwy, yn benodol o ran y perfformiad ym meysydd amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu.
Mae’r adroddiad blynyddol yn edrych ar feysydd sy’n bwysig iawn i breswylwyr, cymunedau, staff a rhanddeiliaid; o ansawdd ac effeithlonrwydd cartrefi i lesiant preswylwyr a staff, buddsoddiad yn y gymuned, a llywodraethu da.
Mae’r Adroddiad yn cyfuno tystiolaeth, sylwadau, ffeithiau, ystadegau ac astudiaethau achos i ddangos sut mae ClwydAlyn yn cyflawni ei flaenoriaethau, a gafodd eu nodi yn lansiad ei Gynllun Corfforaethol yn 2025. Mae pob un o’r blaenoriaethau hyn yn canolbwyntio ar yr uchelgais gyffredinol i weithio mewn partneriaeth i roi diwedd ar dlodi.
Mae’r blaenoriaethau hyn yn cynnwys:
- Sicrhau bod preswylwyr a staff yn byw mewn cartrefi diogel a chynnes
- Gweithio gyda phartneriaid i ddarparu mynediad at fwyd da, fforddiadwy
- Cyfrannu at roi diwedd ar ddigartrefedd yn y rhanbarth
Mae prif feysydd yr adroddiad yn cynnwys:
- Cynaliadwyedd
- Effeithlonrwydd cartrefi
- Lleihau carbon
- Rheoli adnoddau
- Atal lleithder a llwydni
- Diogelwch ac ansawdd adeiladau
- Llais a dylanwad preswylwyr
- Cwynion
- Addysg a sgiliau
- Rheoli risg
- Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
- Sicrwydd
- Buddsoddiad parhaus
- Llesiant
"Mae ein cynnydd parhaus wrth gwrdd â’n targedau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu yn arwydd o’n hymrwymiad i gefnogi ein preswylwyr a staff i fyw’n dda, darparu cartrefi diogel, cynnes a fforddiadwy, lleihau effaith amgylcheddol ein hadeiladau newydd a’n prosiectau ôl-osod a sicrhau bod gan breswylwyr a rhanddeiliaid ClwydAlyn lais yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw.”
Mae adroddiad Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu ClwydAlyn bellach ar gael i’w ddarllen:
https://www.clwydalyn.co.uk/wp-content/uploads/2026/08/ClwydAlyn_ESG_25-26_wel_digi-final.pdf
YSTADEGAU A FFEITHIAU ALLWEDDOL O ADRODDIAD AMGYLCHEDDOL, CYMDEITHASOL A LLYWODRAETHU CLWYDALYN 2025/26:
- Buddsoddwyd £3.25 miliwn ar fesurau ôl-osod
- Croesawyd 838 o breswylwyr newydd
- Gosodwyd 168 o baneli solar
- Ailgylchwyd 99% o wastraff swyddfeydd
- Adeiladwyd 100% o gartrefi newydd gan brif gontractwyr o ogledd Cymru
- Roedd 98.4% o breswylwyr yn fodlon gyda’u gwaith trwsio
- Hwyluswyd Cymorth Hawliau Lles i 369 o breswylwyr
- Sicrhawyd £1.6 miliwn o enillion ariannol i breswylwyr
- Darparwyd cymorth i 240 o breswylwyr mewn digwyddiadau a gweithgareddau cymunedol
- Cymerodd 125 o breswylwyr ran mewn rhaglen beilot cynhwysiant digidol