I unigolion a phlant sy’n profi cam-drin domestig
Mae Cymorth i Ferched ClwydAlyn yn wasanaeth cam-drin domestig arbenigol sy’n darparu cymorth cyfrinachol yn seiliedig ar drawma i unigolion a’u plant sydd wedi wynebu cam-drin domestig.
Gan weithredu fel rhan o wasanaethau byw â chymorth ClwydAlyn, mae Cymorth i Ferched ClwydAlyn yn cyfuno llety diogel â chymorth emosiynol ac ymarferol i helpu goroeswyr i symud o sefyllfa o argyfwng i adferiad ac annibyniaeth fwy hirdymor. Mae’r gwasanaeth yn ymateb i anghenion, dymuniadau a dewisiadau unigolion, gan hybu gobaith, caredigrwydd ac ymddiriedaeth a chefnogi pobl agored i niwed yn ein cymunedau.
Yr hyn yr ydym yn ei wneud
- Darpariaeth llochesi
- Mynediad at ein cymorth iechyd meddwl a chwnsela arbenigol.
- Swyddog arbenigol iechyd meddwl cam-drin domestig
- Gwasanaethau i blant a phobl ifanc
- Ymyriadau mewn argyfwng
- Allgymorth a chymorth yn ôl yr angen
- Darpariaeth llochesi/tai diogel cyffredin a hunangynhwysol
- Rhaglenni adferiad: Rhaglen Freedom, STAR, Own My Life, DART, Space a Hope2recovery
- Gwasanaeth galw heibio
- Gwasanaeth cyfeirio at gynghorwyr cyfreithiol arbenigol
- Gwybodaeth am dai a budd-daliadau
- Gwasanaeth brys tu allan i oriau ar alwad, sydd ar gael 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn drwy ein sefydliad ymbarél Cymorth i Ferched Cymru.
Sut i gael gafael ar ein gwasanaethau:
Cymorth i Ferched ClwydAlyn
- Ffôn: 01352 712150
- E-bost: cahawomensaid@clwydalyn.co.uk
Llinell Gymorth Am Ddim Byw’n Ddi-ofn:
- Ffôn: 0808 80 10 800
- Ebost: info@livefearfreehelpline.wales
- Live Fear Free Helpline : Welsh Women’s Aid