Skip to content

Defnyddio Cwcis

Ffeil fach yw cwci, yn cynnwys llythrennau a rhifau fel arfer, sy’n cael ei lawrlwytho ar eich dyfais pan fyddwch yn agor rhai gwefannau. Anfonir gwybodaeth yn ôl wedyn bob tro y byddwch yn ymweld â’r un safle.

Fel arfer defnyddir cwcis i helpu gwefannau i weithio yn fwy effeithlon ac i roi gwybodaeth i berchnogion gwefannau. Maent yn helpu ein gwefan i weithio yn y ffordd y byddech chi’n ei disgwyl fel ein bod yn gallu rhoi profiad da i chi pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan.  Maent hefyd yn ein helpu i wella ein safle a gwneud ein gweithgaredd hyrwyddo yn fwy effeithlon.

Yn gyffredinol, gall cwcis gael eu dosbarthu i’r categorïau bras canlynol:

Defnyddiol: yn gadael i ddefnyddiwr sy’n dychwelyd a’i ddewisiadau i gael eu hadnabod. Mae hyn yn golygu y gall y wefan gyflwyno cynnwys yn benodol i’r unigolyn.

Angenrheidiol: cwscis sy’n ofynnol i’r safle weithio.

Ystadegol: Cwcis gan drydydd parti yn aml, mae’r rhain yn gadael i weithredwr y wefan adnabod a chyfrif y nifer o ymwelwyr a gweld sut y mae ymwelwyr yn symud o gwmpas gwefan. Maent yn helpu i wella’r ffordd y mae gwefannau yn gweithio, er enghraifft, trwy sicrhau bod defnyddwyr yn dod o hyd i’r hyn y maent yn chwilio amdano.

Marchnata: gall y math yma o gwcis gofnodi ymweliadau â gwefan, y tudalennau yr ymwelwyd â hwy a’r dolenni a ddilynwyd. Defnyddir y cwcis yma i deilwrio’r cynnwys.

Cyfryngau Cymdeithasol

Trwy glicio ar un o’r eiconau cyfryngau cymdeithasol ar ein safle, bydd tab neu ffenestr newydd yn agor yn eich porwr a llwytho tudalen ar wefan yr ap. Bydd y safle yn rhoi cwcis ar eich dyfais yn ôl ei bolisi Cwcis ei hun a dylech chwilio am y polisi hwnnw er mwyn penderfynu a ydych am dderbyn y cwcis yma.

Google Analytics

Mae llawer o safleoedd yn defnyddio Google Analytics i gasglu data ystadegol am ddefnyddio eu gwefannau, gan gynnwys aelodau o Grŵp Pennaf. Darllenwch drosolwg Google o breifatrwydd a diogelu data

Er mwyn eithrio rhag cael eich olrhain gan Google Analytics ar draws yr holl wefannau ewch i http://tools.google.com/dlpage/gaoptout.

Sut gallaf newid fy ngosodiadau cwcis?

Mae’r rhan fwyaf o borwyr y we yn rhoi rhywfaint o reolaeth ar y rhan fwyaf o gwcis trwy eu gosodiadau porwr. Er mwyn cael gwybod rhagor am gwcis, gan gynnwys sut i weld pa gwcis sydd wedi eu gosod, ewch i www.aboutcookies.org neu www.allaboutcookies.org.

Dysgwch sut i reoli cwcis ar borwyr poblogaidd:

Er mwyn cael gwybodaeth am borwyr eraill, ewch i wefan datblygwyr y porwr.

Cwcis ar Ein Safle

Yn y tabl hwn, defnyddir y geiriau Gwefan y Grŵp i ddynodi Gwefan benodol Grŵp Pennaf yr ydych yn ymweld â hi.

h.y.

clwydalyn.co.uk

taielwy.co.uk

 

Categori’r Cwci Enw Darparwr Diben Dyddiad daw i ben
Defnyddiol gdpr_accept gwefan y Grŵp I gofio eich dewis o ran derbyn cwcis trydydd parti 409 diwrnod
wordpress_language; sessionid gwefan y Grŵp I gofio eich dewis iaith 379 diwrnod
CIVICA_HOUSING_PORTAL_SESSION ptp.pennafgroup.co.uk (dolen o clwydalyn.co.uk) Er mwyn caniatáu i chi ddefnyddio ein Porth Preswylwyr Sesiwn
Angenrheidiol csrftoken gwefan y Grŵp Tocyn twyll ceisiadau ar draws safleoedd i atal safleoedd maleisus rhag dwyn data y byddwch yn ei gyflwyno ar ein ffurflenni ar ein safle Blwyddyn
Ystadegol _ga gwefan y Grŵp (gan Google Analytics) ID unigryw a ddefnyddir i greu data ystadegol ar sut yr ydych yn defnyddio ein gwefan. 2 flynedd
_gat gwefan y Grŵp (gan Google  Analytics) Defnyddir gan Google Analytics i reoli cyfradd y ceisiadau Sesiwn
_gid gwefan y Grŵp (gan Google Analytics) ID unigryw a ddefnyddir i greu data ystadegol ar sut yr ydych yn defnyddio ein gwefan. Sesiwn