Skip to content

Bydd digwyddiad yn y Trallwng yn gyfle i ddangos y tai fforddiadwy a’r swyddi fydd ar gael. Mae disgwyl i Neuadd Maldwyn, cynllun Byw’n Annibynnol ClwydAlyn, agor yn ystod yr haf ac mae ClwydAlyn yn cynnal digwyddiad rhannu gwybodaeth yn Neuadd y Dref y Trallwng, y Farchnad Ŷd, Powys ar 19 Chwefror 2024, rhwng 9:30am a 7pm.

Dywedodd Brendan McWhinnie, Rheolwr Tai Tîm y Dwyrain ClwydAlyn: “Rydym yn credu mewn adeiladu dyfodol, nid catrefi yn unig, ac mae pobl wrth galon yr hyn rydym yn ei wneud. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr felly at gynnal y digwyddiad hwn a fydd yn gyfle i rannu gwybodaeth am y swyddi fydd ar gael yn Neuadd Maldwyn. Ni waeth a ydych chi’n chwilio am gartref neu swydd newydd, dyma’r lle i ddod. Felly galwch draw i glywed rhagor am fyw’n annibynnol â gofal a chymorth, gweld y safle a chynlluniau’r fflatiau, sgwrsio â’r staff allweddol, gofyn cwestiynau, a chael mwy o fanylion am y swyddi fydd ar gael.”

Bydd Neuadd Maldwyn yn darparu 66 o fflatiau hunangynhwysol 1 a 2 ystafell wely ar rent, ar gyfer pobl 60 oed a throsodd gyda gofal neu angen wedi’i asesu. Rhoddir blaenoriaeth i unigolion sy’n byw ym Mhowys neu sydd â chysylltiadau agos â’r ardal. Bydd y cynllun yn cynnwys cyfleusterau cymunedol ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau, bwyty, mannau parcio, ac ardaloedd wedi’u tirlunio.

Mae’r prosiect yn cael ei ddatblygu gan ClwydAlyn ar y cyd â Chyngor Sir Powys. ClwydAlyn fydd yn gyfrifol am reoli’r safle a darparu’r gwasanaethau ategol, a bydd Cyngor Sir Powys yn darparu gofal cartref ar y safle.

Os na allwch ddod i’r digwyddiad, gallwch fynegi eich diddordeb yma:

Neuadd Maldwyn