Skip to content
52 Cartrefi
Tir yn Hen Ysgol y Bont, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7JA
Cwblhawyd

Cwblhau: Haf 2023

Datblygiad o 52 o gartrefi newydd, effeithlon o ran ynni, fforddiadwy. Fe’u hadeiladwyd gan Williams Homes ar ran ClwydAlyn ac mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth Cymru; gydag arian yn rhannol trwy’r Rhaglen Tai Arloesol.

Mae’r gymysgedd o gartrefi yn cynnwys cartrefi un, dwy, tair a phedair ystafell wely, gan amrywio o fyngalos, fflatiau a thai pâr. Gelwir y cynllun hwn yn: Maes yr Ysgol a Stryd y Bont. Adeiladir ein holl gartrefi fel cartrefi am oes ac maent wedi eu dylunio i fod yn hawdd eu haddasu yn ôl anghenion y preswylwyr wrth iddynt newid, gan eu helpu i fyw’n annibynnol yn hwy.

Mae’r cartrefi newydd yn bodloni ac yn mynd tu hwnt i’r safonau rheoleiddiol presennol: Safon Ansawdd Tai Cymru Llywodraeth Cymru, Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru a safonau Tai a Lleoedd Hardd Llywodraeth Cymru.

Nod ClwydAlyn yw taclo tlodi tanwydd a helpu i leihau’r effaith y gall cartrefi llai effeithlon o ran ynni ei gael ar iechyd a lles pobl. Wedi eu hadeiladu gan ddefnyddio technolegau mwy gwyrdd a dyluniadau blaengar, mae’r cartrefi newydd yma’n effeithlon iawn o ran ynni ac yn manteisio ar:

• Pympiau gwres ffynhonnell aer
• Paneli trydan solar
• Batris storio trydan solar
• Cartrefi wedi eu gosod i wneud y mwyaf o’r haul a golau naturiol
• Cyfleusterau gwefru ceir trydan
• ‘Dulliau Adeiladu Modern’, gan ddefnyddio cymaint o ddeunyddiau naturiol a chynaliadwy ag sy’n bosibl
• Canfod deunyddiau gan weithgynhyrchwyr a chyflenwyr lleol, gan gadw’r ôl troed carbon yn isel.

Gall y cartrefi yma wneud gwahaniaeth mawr. Byddant yn helpu preswylwyr i gefnogi’r amgylchedd; arbed ynni gwerthfawr ac fe allant arbed arian yn y pen draw hefyd.

Mae 52 o gartrefi ar y safle

  • 8 x Fflat 1 Ystafell Wely
  • 2 x Byngalo 1 Ystafell Wely
  • 28 x Tŷ Pâr 2 Ystafell Wely
  • 12 x Tŷ Pâr 3 Ystafell Wely
  • 2 x Tŷ Pâr 4 Ystafell Wely

Manteision y cartrefi


Effeithlon o ran ynni
Wedi eu hadeiladu i’r safonau uchaf o ran effeithlonrwydd ynni, gan ddefnyddio’r technolegau a deunyddiau diweddaraf, i sicrhau bod eich cartref yn gost effeithiol i’w redeg.
Cefnogaeth gyfeillgar
Cefnogaeth gyfeillgar gan eich Swyddog Tai penodol.
Rheoli eich tenantiaeth ar-lein
Mae FyClwydAlyn yn wasanaeth ar-lein am ddim, diogel i reoli eich tenantiaeth unrhyw le, unrhyw bryd.

Y newyddion diweddaraf am y datblygiad:

Hydref 2022
Darllenwch gylchlythyr
Gaeaf 2023
Darllenwch gylchlythyr
Haf 2023
Darllenwch gylchlythyr

Y newyddion diweddaraf a datblygiadau ar gyfer Hen Ysgol y Bont:

Resident stood outside new home at Hen ysgol y bont, Llangefni
Tenantiaid yn symud i’w cartrefi newydd yn Ynys Môn, Maes yr Ysgol
Seen as one of ClwydAlyn’s most innovative developments, a total of 52 new homes are being developed at the Maes yr Ysgol site, and a total of 16 homes are now ready for people to move into.
Darllenwch fwy
charity food delivery
Datblygiad newydd yn helpu i daclo tlodi bwyd
Mae cynllun tai sydd newydd ei ddatblygu ar Ynys Môn wedi chwarae rhan allweddol wrth greu man i ddarparu bwyd sy’n ymdrin â thlodi bwyd a gwastraff bwyd.
Darllenwch fwy
Hen Ysgol y Bont properties

Am gael byw yma?

Er mwyn ymgeisio i fyw ar y Tir ym Maes yr Ysgol a Stryd y Bont, bydd angen i chi ymgeisio trwy Gyngor Sir Ynys Môn. Dilynwch y ddolen isod i ymgeisio.
Ymgeisiwch Rŵan