Skip to content
60 Cartrefi
Tir ger Campws Pencraig Coleg Menai
Ar y gweill

Cwblhau: Hydref 2023

Mae hwn yn ddatblygiad £9.6 miliwn o 60 o gartrefi newydd, effeithlon o ran ynni, fforddiadwy. Yn cael eu hadeiladu gan Anwyl Partnerships ar ran ClwydAlyn ac mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth Cymru.

Roedd y safle 4.2 erw yn rhan o gampws y coleg yn y gorffennol, ac mae wedi ei drawsnewid yn gymysgedd o gartrefi yn cynnwys 44 o dai dwy a thair ystafell wely ac 16 o fflatiau dwy ystafell wely. Adeiladir ein holl gartrefi fel cartrefi am oes ac maent wedi eu dylunio i fod yn hawdd eu haddasu yn ôl anghenion y preswylwyr wrth iddynt newid, gan eu helpu i fyw’n annibynnol yn hwy.

Mae’r cartrefi newydd yn bodloni ac yn mynd tu hwnt i’r safonau rheoleiddiol presennol: Safon Ansawdd Tai Cymru Llywodraeth Cymru, Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru a safonau Tai a Lleoedd Hardd Llywodraeth Cymru.

Nod ClwydAlyn yw taclo tlodi tanwydd a helpu i leihau’r effaith y gall cartrefi llai effeithlon o ran ynni ei gael ar iechyd a lles pobl. Wedi eu hadeiladu gan ddefnyddio technolegau mwy gwyrdd a dyluniadau blaengar, mae’r cartrefi newydd yma’n effeithlon iawn o ran ynni ac yn manteisio ar:

• Pympiau gwres ffynhonnell aer
• Paneli trydan solar
• Cartrefi wedi eu gosod i wneud y mwyaf o’r haul a golau naturiol
• Cyfleusterau gwefru ceir trydan
• ‘Dulliau Adeiladu Modern’, gan ddefnyddio cymaint o ddeunyddiau naturiol a chynaliadwy ag sy’n bosibl
• Canfod deunyddiau gan weithgynhyrchwyr a chyflenwyr lleol, gan gadw’r ôl troed carbon yn isel.

Gall y cartrefi yma wneud gwahaniaeth mawr. Byddant yn helpu preswylwyr i gefnogi’r amgylchedd; arbed ynni gwerthfawr ac fe allant arbed arian yn y pen draw hefyd.

Mae 60 o gartrefi ar y safle

  • 16 x Fflat 2 Ystafell Wely
  • 18 x Tŷ Pâr 2 Ystafell Wely
  • 14 x Tŷ Pâr 3 Ystafell Wely
  • 7 x Tŷ Teras 2 Ystafell Wely
  • 5 x Tŷ Teras 3 Ystafell Wely

Manteision y cartrefi


Effeithlon o ran ynni
Wedi eu hadeiladu i’r safonau uchaf o ran effeithlonrwydd ynni, gan ddefnyddio’r technolegau a deunyddiau diweddaraf, i sicrhau bod eich cartref yn gost effeithiol i’w redeg.
Cefnogaeth gyfeillgar
Cefnogaeth gyfeillgar gan eich Swyddog Tai penodol.
Rheoli eich tenantiaeth ar-lein
Mae FyClwydAlyn yn wasanaeth ar-lein am ddim, diogel i reoli eich tenantiaeth unrhyw le, unrhyw bryd.

Y newyddion diweddaraf am y datblygiad

Hydref 2022
Darllenwch y cylchlythyr

Newyddion diweddaraf a datblygiadau ar gyfer Tir ger Campws Pencraig Coleg Menai:

Family outside new home at Coleg Menai site in Llangefni
Tenantiaid yn symud i’w cartrefi newydd yn Ynys Môn, Campws Pencraig Coleg Menai
Mae’r datblygiad yn cael ei weld fel un o’r rhai mwyaf blaengar, mae cyfanswm o 60 o gartrefi newydd yn cael eu datblygu ar safle Campws Pencraig Coleg Menai, ac mae cyfanswm o 12 cartref yn awr yn barod i bobl symud iddyn nhw.
Darllenwch fwy
Artist impression of Coleg Menai
Gwaith wedi dechrau ar safle datblygiad tai newydd ar Ynys Môn
Mae cynllun datblygu tai newydd ar Ynys Môn wedi dechrau’n ddiweddar yn agos at gampws Pencraig Coleg Menai yn Llangefni.
Darllenwch fwy
Coleg Menai Site, Llangefni, Anglesey

Am gael byw yma?

Er mwyn ymgeisio i fyw ar y Tir ger Campws Pencraig Coleg Menai, bydd angen i chi ymgeisio trwy Gyngor Sir Ynys Môn. Dilynwch y ddolen isod i ymgeisio.
Ymgeisiwch Rŵan