Skip to content
100 Cartrefi
Tir ar Blot 1, Corus Road, Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint, CH5 2HH
Ar y gweill

Dyddiad cwblhau arfaethedig: Gaeaf 2025

Datblygiad o 100 o gartrefi newydd, effeithlon o ran ynni, fforddiadwy mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru.

Mae’r gymysgedd o gartrefi yn cynnwys cartrefi dwy, tair a phedair ystafell wely yn ogystal â byngalos a fflatiau un a dwy ystafell wely. Adeiladir ein holl gartrefi fel cartrefi am oes ac maent wedi eu dylunio i fod yn hawdd eu haddasu yn ôl anghenion y preswylwyr wrth iddynt newid, gan eu helpu i fyw’n annibynnol yn hwy.

Bydd y cartrefi newydd hyn yn bodloni ac yn mynd tu hwnt i’r safonau rheoleiddiol presennol: Safon Ansawdd Tai Cymru Llywodraeth Cymru, Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru a safonau Tai a Lleoedd Hardd Llywodraeth Cymru.

Nod ClwydAlyn yw taclo tlodi tanwydd a helpu i leihau’r effaith y gall cartrefi llai effeithlon o ran ynni ei gael ar iechyd a lles pobl. Wedi eu hadeiladu gan ddefnyddio technolegau mwy gwyrdd a dyluniadau blaengar, mae’r cartrefi newydd yma’n effeithlon iawn o ran ynni ac yn manteisio ar:

• Pympiau gwres ffynhonnell aer
• Paneli trydan solar
• Batris storio trydan solar
• Cartrefi wedi eu gosod i wneud y mwyaf o’r haul a golau naturiol
• Cyfleusterau gwefru ceir trydan
• ‘Dulliau Adeiladu Modern’, gan ddefnyddio cymaint o ddeunyddiau naturiol a chynaliadwy ag sy’n bosibl
• Canfod deunyddiau gan weithgynhyrchwyr a chyflenwyr lleol, gan gadw’r ôl troed carbon yn isel.

Gall y cartrefi yma wneud gwahaniaeth mawr. Byddant yn helpu preswylwyr i gefnogi’r amgylchedd; arbed ynni gwerthfawr ac fe allant arbed arian yn y pen draw hefyd.

Mae 100 o gartrefi ar y safle

  • 6 x Fflat 1 Ystafell Wely
  • 18 x Fflat 2 Ystafell Wely
  • 5 x Byngalo 2 Ystafell Wely
  • 31 x Cartref 2 Ystafell Wely
  • 34 x Cartref 3 Ystafell Wely
  • 6 x Cartref 4 Ystafell Wely

Manteision y cartrefi


Effeithlon o ran ynni
Wedi eu hadeiladu i’r safonau uchaf o ran effeithlonrwydd ynni, gan ddefnyddio’r technolegau a deunyddiau diweddaraf, i sicrhau bod eich cartref yn gost effeithiol i’w redeg.
Cefnogaeth gyfeillgar
Cefnogaeth gyfeillgar gan eich Swyddog Tai penodol.
Rheoli eich tenantiaeth ar-lein
Mae FyClwydAlyn yn wasanaeth ar-lein am ddim, diogel i reoli eich tenantiaeth unrhyw le, unrhyw bryd.

Y newyddion diweddaraf a datblygiadau ar gyfer Northern Gateway

Northern Gateway, Deeside, ClwydAlyn
Bwrw iddi ar ddatblygiad newydd gyda 100 o gartrefi fforddiadwy yng Nglannau Dyfrdwy
Mae gwaith adeiladu bellach ar y gweill i gynnig 100 o gartrefi fforddiadwy yn Ninas Gardd, Glannau Dyfrdwy i gynnig amrywiaeth o gartrefi ar gyfer yr ardal.
Darllenwch fwy
Northern Gateway, Deeside, Flintshire, new development

Am gael byw yma?

Er mwyn ymgeisio i fyw yn y Northern Gateway, bydd angen i chi ymgeisio trwy Gyngor Sir y Fflint. Dilynwch y ddolen isod i ymgeisio.
Ymgeisiwch Rŵan