Skip to content
12 Cartrefi
Princess Avenue, Bwcle, Sir y Fflint, CH7 2JU
Cwblhawyd

Cwblhau: Gwanwyn 2024

Datblygiad 12 cartref, dau dŷ 3 ystafell wely a deg o fflatiau 1 a 2 ystafell wely. Wedi eu hadeiladu gan Gareth Morris Construction (GMC) ar ran ClwydAlyn mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru.

Mae’r gymysgedd o gartrefi yn cynnwys cartrefi 3 ystafell wely a fflatiau 2 a 3 ystafell wely. Adeiladir ein holl gartrefi fel cartrefi am oes ac maent wedi eu dylunio i fod yn hawdd eu haddasu yn ôl anghenion y preswylwyr wrth iddynt newid, gan eu helpu i fyw’n annibynnol yn hwy.

Bydd y cartrefi newydd hyn yn bodloni ac yn mynd tu hwnt i’r safonau rheoleiddiol presennol: Safon Ansawdd Tai Cymru Llywodraeth Cymru, Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru a safonau Tai a Lleoedd Hardd Llywodraeth Cymru.

Nod ClwydAlyn yw taclo tlodi tanwydd a helpu i leihau’r effaith y gall cartrefi llai effeithlon o ran ynni ei gael ar iechyd a lles pobl. Wedi eu hadeiladu gan ddefnyddio technolegau mwy gwyrdd a dyluniadau blaengar, mae’r cartrefi newydd yma’n effeithlon iawn o ran ynni ac yn manteisio ar:

· Paneli trydan solar
· Cartrefi wedi eu gosod i wneud y mwyaf o’r haul a golau naturiol
· Cyfleusterau gwefru ceir trydan
· ‘Dulliau Adeiladu Modern’, gan ddefnyddio cymaint o ddeunyddiau naturiol a chynaliadwy ag sy’n bosibl
· Canfod deunyddiau gan weithgynhyrchwyr a chyflenwyr lleol, gan gadw’r ôl troed carbon yn isel.

Gall y cartrefi yma wneud gwahaniaeth mawr. Byddant yn helpu preswylwyr i gefnogi’r amgylchedd; arbed ynni gwerthfawr ac fe allant arbed arian yn y pen draw hefyd.

Mae 12 o gartrefi ar y safle

  • 2 x Cartref 3 ystafell wely
  • 2 x Fflat 2 Ystafell Wely
  • 8 x Fflat 1 Ystafell Wely

Manteision y cartrefi


Effeithlon o ran ynnl
Wedi eu hadeiladu i’r safonau uchaf o ran effeithlonrwydd ynni, gan ddefnyddio technolegau a deunyddiau blaengar, i sicrhau bod eich cartref yn gost effeithiol i’w redeg.
Cefnogaeth gyfeillgar
Cefnogaeth gyfeillgar gan eich Swyddog Tai penodol.
Rheoli eich tenantiaeth ar-lein
Mae FyClwydAlyn yn wasanaeth ar-lein am ddim, diogel i reoli eich tenantiaeth unrhyw le, unrhyw bryd.

Y newyddion diweddaraf am y datblygiad:

Gwanwyn 2023
Darllenwch gylchlythyr
New development, Princess Avenue, Buckley.  New eco homes.

Am gael byw yma?

Er mwyn ymgeisio i fyw yn Princess Avenue, bydd angen i chi ymgeisio trwy Gyngor Sir y Fflint. Dilynwch y ddolen isod i ymgeisio.
Ymgeisiwch Rŵan