Mae’r preswylwyr wrth eu boddau yn symud i’w cartrefi newydd fel rhan o gynllun Cam Un, Hen Bentre Pwylaidd, Gwynedd. Datblygwyd y cynllun byw’n annibynnol arloesol i breswylwyr oedrannus dros 55 oed gan y darparwr tai cymdeithasol ClwydAlyn, mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Llywodraeth Cymru a Williams Homes (Bala) Ltd.
Mae’r preswyliwr Jennifer Evans wedi symud i’w chartref newydd sy’n rhan o gam cyntaf ailddatblygiad Hen Bentre Pwylaidd gan ClwydAlyn. Disgrifiodd ei byngalo newydd fel ‘breuddwyd sydd wedi dod yn wir’, wrth i’r preswylwyr ddechrau ymgartrefu yn y gymuned gofal ychwanegol.
Mae’r garreg filltir hon yn nodi cwblhau cam cyntaf y gwaith o ailddatblygu’r gymuned boblogaidd hon ym Mhen Llŷn, gan ddarparu cartrefi gofal ychwanegol a fydd yn helpu pobl hŷn i fyw’n annibynnol am gyfnod hwy, tra’n cadw mewn cysylltiad â’u ffrindiau, cymdogion a gwasanaethau cymorth.
Dywedodd Jennifer Evans, a oedd yn arfer byw yn y tai gwreiddiol ym Mhentref Pwylaidd Penrhos: “Roeddwn i’n hapus iawn yn byw yn yr hen adeiladau ond ar ôl dod yna, mae fel breuddwyd sydd wedi dod yn wir. Dydw i erioed wedi cael byngalo cystal, a hoffwn longyfarch yr adeiladwyr. Dw i’n hapus iawn yma. Mae gen i ardd fawr, cegin, dwy lofft a phopeth mae ei angen arnaf. Dyma’r lle gorau i mi fyw erioed.”
Cartrefi Newydd yn Hen Bentre Pwylaidd
Dyluniwyd y cartrefi newydd yn benodol ar gyfer pobl hŷn sydd ag angen gofal a chymorth wedi’i asesu, ac maent yn cyfuno annibyniaeth a theimlad o sicrwydd.
“Rydyn ni wrth ein bodd i weld ymateb cadarnhaol y preswylwyr sy’n symud i fyw i Gam Un y cynllun ac rydyn ni’n dymuno pob hapusrwydd iddynt yn eu cartrefi newydd.”
Cynhesrwydd, Cysur a Fforddiadwyedd
Wedi’u hadeiladu i safonau effeithlonrwydd ynni modern, EPC A, mae’r byngalos yn gynnes, yn gysurus ac yn fforddiadwy i’w cynnal. Bydd lefelau uchel o inswleiddio, systemau gwresogi effeithlon a dulliau adeiladu cynaliadwy yn lleihau’r defnydd o ynni a’r costau rhedeg, gan olygu y bydd y preswylwyr yn fwy cysurus a’u biliau tanwydd yn is o bosibl.
Pwysigrwydd Cymuned a Llesiant
Gall preswylwyr hefyd fwynhau bod yn rhan o gymuned groesawgar a chefnogol sefydledig. Mae’r cyfleusterau ac ardaloedd cyffredin yn annog rhyngweithio cymdeithasol, gan helpu’r preswylwyr i wneud ffrindiau, a’u hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau a chadw mewn cysylltiad ag eraill. I lawer, mae’r teimlad hwn o berthyn yn hollbwysig i gynnal llesiant corfforol ac emosiynol.
O’r chwith i’r dde: Lisa Jones, Swyddog Cyswllt Tai ClwydAlyn, yn croesawu’r preswyliwr Jennifer Evans i’w chartref newydd yn Hen Bentre Pwylaidd.
Mwy na Chartref yn unig
Mae Hen Bentre Pwylaidd yn cynnig llawer mwy na chartrefi o ansawdd uchel. Gall y preswylwyr hefyd fanteisio ar bob math o gyfleusterau ar y safle sydd wedi’u darparu i annog ffordd o fyw weithgar a chymdeithasol. Mae’r rhain yn cynnwys ardaloedd cyffredin, cyfle i fwynhau pryd dyddiol gyda ffrindiau a chymdogion, ardaloedd awyr agored a mynediad i wasanaethau cymorth pan fo’r angen.
Manteision y Lleoliad
Saif Hen Bentref Pwylaidd mewn lleoliad bendigedig ym Mhen Llŷn, ac mae’r datblygiad newydd yn rhoi cyfle i bobl hŷn aros yn agos at eu teuluoedd, ffrindiau a chymunedau lleol. Gall preswylwyr ddal i fwynhau’r ardal maent yn ei hadnabod, tra’n elwa ar gartrefi sy’n addas i’w dyfodol.
Dywedodd Penny Lofts, Rheolwr Tir a Chaffael Williams Homes (Bala) Ltd: “Mae’r cynllun adeiladu hwn wedi bod yn un gwahanol iawn i ni, oherwydd dydyn ni ddim yn aml yn gweithio ar ddatblygiad lle mae’r darpar breswylwyr yn chwarae rhan mor bwysig yn yr eiddo sy’n cael eu datblygu. Mae’n bleser gweld y preswylwyr yn symud i mewn ac yn mwynhau eu cartrefi newydd.”
Gweledigaeth i’r Dyfodol
Mae gweld y preswylwyr cyntaf yn symud i’r cartrefi newydd yn Hen Bentre Pwylaidd yn garreg filltir bwysig yn ailddatblygiad ehangach y cynllun. Bydd cynlluniau yn parhau i drawsnewid y safle fesul cam, i greu cymuned fodern sy’n cyfuno tai o ansawdd uchel, cymorth iechyd a llesiant, cynaliadwyedd a chyfleoedd i breswylwyr fwynhau eu bywyd wrth heneiddio yn hyderus ac yn annibynnol.
“Mae’r argyfwng tai yn dal i roi pwysau ar gymunedau ledled Gwynedd a thrwy weithio mewn partneriaeth agos â chymdeithasau tai fel ClwydAlyn, gallwn ddarparu cartrefi fforddiadwy, modern ac ynni-effeithlon y mae eu hangen ar frys ar bobl Gwynedd.
“Rwy’n edrych ymlaen i weld cam nesaf y datblygiad a rhagor o gartrefi yn cael eu datblygu ar gyfer y gymuned leol.”
Bydd y fflatiau ar y safle ar gael cyn bo hir. I gael rhagor o wybodaeth, neu i drefnu ymweliad, ewch i: Hen Bentre Pwylaidd, Gwynedd – Clwydalyn
New Bungalows at Hen Bentre Pwylaidd