Skip to content

Mae Neuadd Maldwyn yn Gynllun Byw’n Annibynnol newydd pwrpasol i bobl hŷn, ac mae’n cynnig cyfuniad unigryw o ffordd o fyw’n annibynnol, gyda gofal a chymorth hyblyg 24 awr ar y safle yn ôl yr angen, gan roi tawelwch meddwl nawr ac yn y dyfodol.

Rydym wedi defnyddio ein profiad helaeth i ddatblygu fflatiau o ansawdd uchel, sydd wedi’u hadeiladu’n bwrpasol i ddarparu amgylchedd delfrydol ar gyfer eich holl anghenion, gan gynnig gofal a chymorth hyblyg i hybu annibyniaeth.

Mae Neuadd Maldwyn yn adeilad rhestredig Gradd II neo-Sioraidd ac roedd yn cael ei ddefnyddio gan Gyngor Sir Powys tan 2021; cyn hynny, roedd yn bencadlys Cyngor Dosbarth Maldwyn a Chyngor Sir Drefaldwyn. Mae’r adeilad yn dyddio’n ôl i ddechrau’r ugeinfed ganrif ac wrth ei drosi yn fflatiau mae cymeriad yr adeilad a llawer o’r nodweddion gwreiddiol wedi cael eu cadw.

Mae ein pwyslais ar ddylunio da yn amlwg ym mhob agwedd ar y cynllun a’r fflatiau – maent wedi’u hinswleiddio i fod yn gysurus ac yn effeithlon o ran ynni, maent yn defnyddio technoleg sy’n helpu pobl i fyw’n annibynnol, maent yn ddiogel ac yn gyfleus, ac maent hefyd yn cynnig amgylchedd modern, chwaethus a chartrefol ynghyd â thiroedd deniadol sy’n cael eu cynnal yn dda.

  • Nodweddion allweddol:
  • Fflatiau 1 a 2 ystafell wely i’w rhentu yn amodol ar fodloni meini prawf cymhwysedd
  • Preifatrwydd ac annibyniaeth
  • Gerddi wedi’u tirlunio
  • Bwyty
  • Lolfa
  • Ystafell amlweithgaredd
  • Ystafell ymolchi â chymorth ar wahân
  • Ystafell golchi dillad
  • Ystafelloedd i westeion
  • Storfa bygis/sgwteri

Mae gwneud ffrindiau newydd yn hawdd, rydym wedi datblygu’r ardaloedd cyffredin i annog preswylwyr i gymdeithasu, ac mae pob math o gyfleusterau ar gael ar y safle.

Mae Neuadd Maldwyn yng nghanol tref y Trallwng, ac mae amwynderau a siopau lleol o fewn pellter cerdded. Mae’n hawdd cyrraedd yma ar drafnidiaeth gyhoeddus hefyd.

Ffurflen ymholiad

Enw(Required)
E-bost(Required)
Neges