Skip to content

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd tywydd o law difrifol mewn rhannau o Gymru hyd at ddydd Sadwrn: Tywydd Cymru – y Swyddfa Dywydd.

Oherwydd y tywydd eithafol, rydym yn gorfod canslo rhai apwyntiadau heddiw.  Os oes gennych apwyntiad y mae’r tywydd yn effeithio arno bydd ein timau cynnal a chadw a chynllunio yn cysylltu hefo chi i ail-drefnu.

Byddwch yn amyneddgar gyda’n staff heddiw, gall gymryd mwy o amser i’n tîm eich cyrraedd, neu i ateb eich ymholiadau. Rydym yn ailgyfeirio cefnogaeth i’r ardaloedd sy’n dioddef waethaf.

Os ydych yn byw mewn ardal lle mae perygl o lifogydd, gofalwch eich bod yn derbyn rhybuddion llifogydd a chadwch olwg ar y tywydd.  Rydym yn gwybod bod rhai ardaloedd eisoes yn dioddef llifogydd ac mae ein staff yn yr ardaloedd hynny’n cefnogi’r preswylwyr sy’n dioddef.

Os oes arnoch angen unrhyw gymorth oherwydd llifogydd, cysylltwch â ni ar 0800 183 5757. Ar gyfer ceisiadau nad ydynt yn rhai brys neu waith trwsio mewngofnodwch i FyClwydAlyn neu anfonwch e-bost at help@clwydalyn.co.uk.

Diolch i chi am eich amynedd a chadwch yn ddiogel.