Cartrefi Newydd y Cynllun Cartrefi Gofal Ychwanegol i elwa ar gymorth 24/7
Wrth i’r gwaith o ailddatblygu Pentref Pwylaidd Penrhos fynd rhagddo, derbyniwyd cadarnhad yn ddiweddar y bydd y cynllun ‘Cartrefi Gofal Ychwanegol’ yn cynnig cymorth gofal 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, ac y bydd cymorth ar gael ar unwaith petai ei angen ar y preswylwyr.