Cartref Gofal Lleol yn Anrhydeddu Cyn-filwyr gydag Arddangosfa Drawiadol o Flodau Pabi
I nodi Sul y Cofio ar 11 Tachwedd, mae rhai o breswylwyr a staff Llys y Waun wedi bod yn gweithio’n galed i greu ‘rhaeadr’ o flodau pabi hardd. Mae’r atyniad trawiadol a wnaed o law i’w weld yn goferu o falconi’r cartref i’r llawr gan greu teyrnged weledol arbennig i’r cyn-filwyr, gan gynnwys rhai sydd bellach yn byw yn y cartref ger Wrecsam.