Skip to content

Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi ymuno gyda’r gymdeithas dai ClwydAlyn y gwanwyn hwn ar gyfer dau ddigwyddiad glanhau yn Wrecsam a’r Fflint, gan alw ar denantiaid lleol i gael gwared ar eitemau nad ydynt eu heisiau yn y modd cywir.

Gyda’i ymgyrch wastraff newydd, ‘Nid ar Fy Stryd i’ mae Cadwch Gymru’n Daclus yn gobeithio cyrraedd cymunedau ar draws Cymru, gan eu haddysgu am ymddygiad gwastraff cywir, dewisiadau ar gyfer gwaredu eitemau o’r cartref a galw ar denantiaid i wneud y peth iawn.

Yn gyntaf ddydd Llun, maent yn ymuno â Chyngor Wrecsam am Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Gwastraff. Yng nghymuned Brynteg ClwydAlyn ymunodd Cyfnewidfa Ddillad Wrecsam â Cadwch Gymru’n Daclus i gyfnewid dillad gan annog tenantiaid i drwsio ac ailddefnyddio eitemau nad ydynt eu heisiau.

Ar ddydd Mawrth, rhedodd Cadwch Gymru’n Daclus a Chyngor Sir y Fflint gyfle i gyfnewid dillad a theganau i ail-ddefnyddio a chyfnewid eitemau nad oeddent eu heisiau.

Dangosodd Benthyg Cymru hefyd bethau defnyddiol y gall tenantiaid yn y gymuned eu defnyddio wrth fenthyg, tra roedd y sefydliadau lleol Abbey Upcycling and Refurbs trwy Groundworks Gogledd Cymru yn hyrwyddo eu gwasanaethau, gan atal eitemau o ansawdd da rhag mynd i safleoedd tirlenwi.

Cynhaliwyd ymgyrchoedd casglu sbwriel lleol hefyd ar y ddau ddiwrnod ochr yn ochr ag ysgolion cynradd Brynteg a Cornist Park, gan annog pobl leol i gadw eu hardal yn lân a heb sbwriel.

Dim ond rhai yw’r digwyddiadau yma o’r nifer sy’n digwydd gyda chymdeithasau tai ar draws Cymru, i denantiaid ddysgu sgiliau newydd, arbed arian a gwaredu’r pethau nad ydynt eu heisiau yn y modd cywir fel rhan o’r ymgyrch ‘Nid ar Fy Stryd i’.

Maent hefyd yn rhan o gannoedd o ddigwyddiadau glanhau sy’n digwydd ar draws Cymru rhwng 17 Mawrth a 2 Ebrill, fel rhan o ymgyrch Glanhau’r Gwanwyn Cymru.

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn annog unigolion, teuluoedd, grwpiau, ysgolion a busnesau i ymuno i gasglu ysbwriel ar eu strydoedd, mannau gwyrdd a thraethau’r gwanwyn hwn.

Mae’r ddwy ymgyrch genedlaethol yn cael eu rhedeg fel rhan o Caru Cymru – mudiad cynhwysol dan arweiniad Cadw Cymru’n Daclus a chynghorau i ysbrydoli pobl i weithredu a gofalu am yr amgylchedd.

Bydd Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus Owen Derbyshire hefyd yn teithio dros Gymru i gymryd rhan mewn diwrnodau glanhau yn ystod Glanhau’r Gwanwyn.

“Mae’ wedi bod yn bleser dod i adnabod tenantiaid a gwirfoddolwyr angerddol yr wythnos hon, yn ogystal â chasglu sbwriel yn y gymuned fel rhan o’n hymgyrch Glanhau’r Gwanwyn.”

“Mae ein neges eleni yn syml: mae hyd yn oed un bag yn gallu gwneud gwahaniaeth. Os byddwch yn dewis glanhau eich cymdogaeth eich hun, eich hoff draeth, parc neu leoliad hardd - mae pob darn o sbwriel sy’n cael ei symud o’r amgylchedd naturiol o bwys.”

“Rydym hefyd wedi cyffroi’n fawr o fod yn gweithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i helpu cymunedau i wneud eu rhan, trwy ddigwyddiadau ymgysylltu cymunedol cadarnhaol fel y rhain.”

“Mae gwaredu eich eitemau o’r tŷ yn haws nag y byddech yn meddwl, ac – yn allweddol – yn rhatach na dirwy.”
Dywedodd Owen Derbyshire
Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
“Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw mannau gwyrdd a glân i bobl ac roeddem yn fwy na hapus i ymuno â Cadwch Gymru’n Daclus a’u hymgyrch ‘Nid ar Fy Stryd i’.”

“Rydym wedi mwynhau treulio amser gyda’r preswylwyr a’r plant o’r ysgolion lleol i helpu wrth dacluso eu strydoedd, gan gasglu dros 60 bag llawn o sbwriel a hefyd rhoi cyfle i bobl gyfarfod tîm ClwydAlyn yn ogystal â’n partneriaid a dysgu am yr holl ffyrdd gwahanol y gallwch ailgylchu eich gwastraff.”
Dywedodd Annie Jackson
Arbenigwr Ymgysylltu Cymunedol yn ClwydAlyn

Er mwyn cymryd rhan yn Glanhau’r Gwanwyn Cymru ac i gael mwy o wybodaeth am ddigwyddiadau sydd ar y gweill, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus:  www.keepwalestidy.cymru/caru-cymru

Derbyniodd Caru Cymru arian trwy Raglen Cymunedau Gwledig – Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, sy’n cael ei ariannu gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd dros Ddatblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.