Skip to content

Wrth i’r Deyrnas Unedig ddathlu dros 50 mlynedd o’r mudiad Pride, fel sefydliad rydym yn falch o fod yn cefnogi Mis Pride. Rydym yn dathlu amrywiaeth, cynhwysedd, unigolyddiaeth, parch ac undod nid dim ond ar draws ClwydAlyn, ond ar draws ein cymunedau.

Fel rhan o ymrwymiad ClwydAlyn, mae ein Rhwydwaith Cynhwysiant staff – sy’n annog a chefnogi pobl i deimlo’n gyfforddus, a diogel i fod yn nhw eu hunain – wedi bod yn cynnwys cydweithwyr wrth ddathlu gwahaniaethau ei gilydd.

Rydym hefyd wedi addurno ein swyddfa yn Llanelwy gydag addurniadau Pride wrth i ni ymuno yn y dathliadau, gan gynnwys arddangos baner yr enfys.

“Rwy’n falch o fod yn rhan o sefydliad sy'n cefnogi'r gymuned LHDTC+ ac rwyf yn falch iawn ein bod yn cymryd rhan yn y Mis Pride. Mae hwn yn gyfle gwych i gefnogi ein ffrindiau, cydweithwyr a phreswylwyr ar draws y gymuned LHDTC+. Mae hefyd yn ffordd wych o ddysgu, cael hwyl a dathlu ein gwahaniaethau ac amrywiaeth."

“Yn ClwydAlyn, rydym yn benderfynol o ddarparu amgylchedd lle gall pawb fod yn nhw eu hunain, neu ddod â'u 'hunain dilys i'r gwaith', gan ein helpu i ymgysylltu'n well gyda chymunedau amrywiol a rhanddeiliaid yr ydym yn gweithio gyda nhw bob dydd."
Dywedodd Elaine Gilbert
Cyfarwyddwr Gweithredol Pobl, Cyfathrebu a Marchnata

Mae mis Pride (sy’n rhedeg o 1 i 30 Mehefin) yn ymwneud â derbyn, cydraddoldeb, dathlu gwaith pobl LHDTC+, addysg mewn hanes LHDTC+ a chodi ymwybyddiaeth o faterion sy’n effeithio ar y gymuned LHDTC+. Er mwyn cael gwybod rhagor, dilynwch y ddolen hon: https://www.pridecymru.com/