Cynlluniau i Ailddatblygu Pentref y Pwyliaid Penrhos yn dod yn eu blaenau
Mae’r darparwr tai cymdeithasol ClwydAlyn wedi cyhoeddi y bydd gwaith dymchwel yn dechrau yn fuan ym Mhentref y Pwyliaid Penrhos. Bydd gwaith ailddatblygu sylweddol ar y safle yn arwain at godi 107 o gartrefi newydd y mae galw mawr amdanynt, yn y pentref gwledig hwn yng Ngwynedd.