Arddangosfa Afaelgar yn dangos gwaith Artistiaid Lleol ar Salwch Meddwl, Hunan-laddiad a Hunan-niweidiol
Yn dilyn ymgyrch bosteri ddiweddar a drefnwyd fel rhan o’r grŵp Atal Hunan-laddiad ymhlith Cymunedau sydd wedi’u tanwasanaethu, daeth partneriaid o bob rhan o Sir Ddinbych a’r gymuned at ei gilydd i gefnogi’r artistiaid talentog o’r Rhyl, Freya Rees, 19 a Kenny Bond, 58. Roedd eu gwaith celf yn rhan o arddangosfa ddiddorol iawn o ddarnau gwreiddiol, a oedd yn ceisio annog sgyrsiau am ba mor bwysig yw ymwybyddiaeth o iechyd meddwl.